Skip to main content

Cyfle i weld y bedd tramwyfa unigryw a phwysig hwn sydd ddim fel arfer ar agor i'r cyhoedd. Dysgwch am ei bensaerniaeth a dewch i fwynhau mynediad arbennig i weld yr hen gerrig addurnedig

Mae Barclodiad-y-Gawres yn siambr gladdu Neolithig a ailadeiladwyd yn rhannol ac mae'n enwog am ei cherrig addurnedig. Mae safle ysblennydd yr heneb hon, ar ben y clogwyn, sy'n dyddio'n ôl i'r cyfnod Neolithig hwyr, yn un o'i atyniadau mawr ac mae'r llwybr ato yn daith fer bleserus. Mae Barclodiad-y-Gawres yn golygu 'The Giantess's Apronful' yn Saesneg ac mae'n enw lleol traddodiadol. Teithiau tywys am 11am, 1pm a 3pm.

 

 


Prisiau

Am Ddim