Skip to main content

Mae Pont Mullock, bwa syml o garreg ar y ffordd rhwng Penfro a Dale yn ne-orllewin Cymru, yn chwarae rhan allweddol mewn stori gymhellol lle mae Cymro’n cael ei goroni’n frenin Lloegr; ac – yn fwy na hynny – yn sylfaenydd llinach holl-bwerus y Tuduriaid.

Onid yw’n sefyllfa annhebygol? Dim ond 70 o flynyddoedd ynghynt, roedd arweinydd brodorol Cymru, Owain Glyndŵr, wedi diflannu ar ôl deng mlynedd o ymladd am annibyniaeth i Gymru, a’r cyfan yn ddiffrwyth. Ym 1485, roedd yr uchelwr o Gymru, Harri Tudur, ar orymdaith o Aberdaugleddau i frwydro gyda Brenin Rhisiart III yn Bosworth yng Nghanolbarth Lloegr. Roedd y tirfeddiannwr dylanwadol o Gymru, Syr Rhys ap Tomos, wedi addo i Rhisiart na fyddai Harri ond yn cyrraedd Cymru dros ei gelain yntau. I leddfu ei gydwybod wrth gefnu ar ei lw, honnir ei fod wedi gorwedd o dan Bont Mullcock wrth i Harri ei chroesi.

Gwreiddiau Cymreig dwfn

A hanes, fel y dywedir, yw’r gweddill. Yn sgil buddugoliaeth enwog Harri yn Rhyfeloedd y Rhosynnod ym Mrwydr Bosworth, trechwyd Rhisiart a daeth Harri yn Frenin Harri VII. Roedd Teulu Lancaster wedi gorchfygu Teulu Iorc. Ond i’r Cymry, roedd y fuddugoliaeth yn perthyn yn llwyr iddynt hwy. 

Roedd Harri yn Gymro i’r carn, wedi’i eni yng Nghymru yng Nghastell Penfro i deulu o Ynys Môn ar 28 Ionawr 1457. Roedd yn ymwybodol o’i wreiddiau, gan fwynhau’r pethau y mae’r Cymry’n enwog amdanynt - cerddoriaeth, barddoniaeth, llenyddiaeth a chwaraeon. Hedfanai faner Cymru, penododd Gymry i swyddi llywodraeth a chrefyddol dylanwadol, a dychwelodd i Gymru ryw statws a hunanhyder a chwalwyd gan ddigwyddiadau blaenorol.  

Cysuron cartref yn dod i’r cestyll

Yn sgil dyfodiad Harri VII, atgyfnerthwyd tuedd a ddechreuwyd ryw ganrif yn gynharach wrth ddylunio cestyll. Ar wahân i wrthryfel Glyndŵr, bu’r hinsawdd wleidyddol yng Nghymru yn dawelach yn yr amseroedd ar ôl Brenin Edward I a fu’n adeiladu cestyll yn ddi-baid.    

Yn raddol, trodd cadarnleoedd milwrol diffwdan yn faenordai ag amddiffynfeydd, a hwythau’n fwy cyffyrddus, a modd byw ynddynt. Yr enghraifft glasurol yw Rhaglan, a fodelwyd ar enghreifftiau cyfoes yn Ffrainc (ac felly hefyd y tŵr octagon ‘newydd’ yng Nghastell Caerdydd). Yn egsotig, urddasol a lluniaidd yr olwg, Rhaglan yw’r ffenestr ddiffiniol i Gymru’r 15fed ganrif, amser pan allai adeiladwyr cestyll a oedd yn ymwybodol o statws fwynhau trechafiaeth gymdeithasol a hefyd gwarchod eu buddsoddiad â nodweddion amddiffynnol. Dros amser, daeth Rhaglan yn grandiach byth, gan esblygu’n blasty Elisabethaidd, ynghyd - wrth gwrs - â’r oriel hir angenrheidiol.

Un arall yw Castell Weble ar Benrhyn Gŵyr, er bod hwnnw’n fwy o dŷ amddiffynedig na chastell. Ac yn Nhretŵr ym Mannau Brycheiniog mae gennym safle hanesyddol anarferol sy’n cynnig dwy nodwedd mewn un – sef gorthwr canoloesol llwm a llysty cyfagos o ddiwedd y canol oesoedd. Mae Llys Tretŵr, un o ogoniannau mawr Cymru, yn rhoi blas inni ar fyw rhadlon yn rhydd o wrthdaro, gan adlewyrchu cyfoeth a dylanwad newydd Cymru o dan y Tuduriaid. Digwyddodd gwelliannau megis Grand Designs i gestyll presennol hefyd mewn mannau fel Talacharn ac Oxwich, ac yng Nghonwy mae Plas Mawr, un o dai tref Elisabethaidd coethaf Prydain.   

Oes y Tuduriaid

Llywodraethodd Harri VII tan 1509. Gwyddom oll pwy a ddaeth nesaf: yr enwog – neu waradwyddus, os digwydd ichi fod ymhlith ei wragedd lawer – Harri VIII (1509–1547). Teg yw dweud nad oedd gan Harri VIII yr un serch â’i dad at Gymru. Oherwydd problemau ar hyd y ffin a bygythiadau posibl ar y môr o Ffrainc a Sbaen drwy arfordir Cymru, cyflwynodd Harri’r Deddfau Uno rhwng 1536 a 1543 a gysylltodd Cymru’n annatod â Lloegr. 

Mae manteision ac anfanteision yn dal yn rhemp ar y ddwy ochr. A arweinion nhw at heddwch a llewyrch i Gymru neu a oedd yn ddirmyg ar ein hunaniaeth genedlaethol? Dyna sut beth yw pos hanes.  

Diwedd brenhinlin

Trystiodd y frenhinlin Duduraidd yn ei blaen drwy linach gymhleth nes i ferch Harri, Elisabeth I, gyrraedd, sef y pwerus ‘Forwyn Frenhines’. Daeth i ben â’i marwolaeth ym 1603, ac erbyn hynny roedd Prydain ar drothwy’r Rhyfeloedd Cartref a fyddai’n gwneud difrod mawr i lawer o gestyll Cymru.