Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau
Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Beddrod Siambr Bryn Celli Ddu

Hysbysiad ymwelwyr

MaeBeddrod Siambr Bryn Celli Ddu ar agor fel rhan o'n rhaglen teithiau tywys o fis Mai i fis Awst bob blwyddyn. Mae'r teithiau hyn yn gyfle unigryw i archwilio'r safle gyda gwybodaeth arbenigol am ei hanes a'i arwyddocâd. Ydych chi eisiau bod ymhlith y rhai cyntaf i gael gwybod am ddyddiadau newydd ar gyfer teithiau, a’r prisiau?

Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr a bydd diweddariadau’n dod yn syth i'ch mewnflwch

Beddrod Neolithig eiconig sydd â chyfrinach nefolaidd

Dau safle mewn un, mewn gwirionedd, yw Bryn Celli Ddu, sef un o dirnodau cynhanes enwocaf Ynys Môn.

Yn y cyfnod Neolithig cynnar (Oes Newydd y Cerrig), adeiladwyd hengor (clawdd a ffos) yn cau cylch o gerrig, a fyddai’n cael ei ddisodli’n ddiweddarach gan feddrod siambr islaw tomen yn mesur hyd at 85 troedfedd /26m ar ei draws. Y tu mewn, mae tramwyfa hir, gul yn arwain at siambr wythonglog 8 troedfedd/2.4m ar ei thraws, lle canfuwyd arteffactau fel esgyrn dynol, pennau saethau a cherrig cerfiedig.

Ond dim ond unwaith y flwyddyn y gellir gweld nodwedd fwyaf anarferol Bryn Celli Ddu. Wrth i’r haul godi ar heuldro’r haf (diwrnod hiraf y flwyddyn) mae golau’n tywynnu’n syth i lawr tramwyfa’r beddrod i oleuo’r siambr y tu mewn.

Mwy am Fryn Celli Ddu

Amseroedd agor a phrisiau

Amseroedd agor

1st Ebrill - 31st Mawrth Ar agor drwy’r flwyddyn

Ar agor drwy’r flwyddyn yng ngolau dydd

Gwybodaeth i ymwelwyr

Mynediad i feiciau icon

Mynediad i feiciau

Maes parcio icon

Maes parcio

Maes parcio graean tua 10 munud o daith gerdded o’r heneb.

Croeso i gŵn icon

Croeso i gŵn

Anhawster cerdded icon

Anhawster cerdded

Tirwedd: Lefel 3 — Cymedrol

Dim ysmygu icon

Dim ysmygu

Polisi dronau icon

Polisi dronau

Iechyd a Diogelwch icon

Iechyd a Diogelwch

Rhaid bod yn ofalus a chymryd sylw wrth ymweld â'r heneb hon. Bydd yn agored i'r elfennau naturiol yn rheolaidd a gall fod yn llithrig neu'n fwdlyd o dan draed.

Rhaid i chi ystyried pa esgidiau sy’n addas ar gyfer y tymor a'r math o heneb cyn eich ymweliad. Dim ond yn ystod yr oriau agor penodol y gallwch fynd yno, mae'r rhain wedi'u dewis ar gyfer eich diogelwch h.y. lefel briodol o olau.

Mae llawer o'n henebion mewn lleoliadau uchel, felly rhaid rhoi sylw hefyd i'r ardaloedd cyfagos, y cloddiau a’r ffosydd wrth ymweld.

Mae rheiliau gwarchod wedi'u gosod i atal mynediad i unrhyw rannau o'r safle yr ydym wedi barnu eu bod yn beryglus neu i atal pobl rhag disgyn mewn mannau penodol. Peidiwch â dringo dros unrhyw reiliau ac ati sydd wedi’u gosod, na dringo drwyddynt.

Dylid defnyddio unrhyw ganllaw sydd yno i'ch helpu i ddringo a dod lawr y grisiau hanesyddol yn ddiogel, gan y gall y rhain fod yn anwastad ac o wahanol uchder.

Fel gyda phob heneb hynafol mae perygl bob amser i gerrig ddod yn rhydd mewn tywydd gwael. Fodd bynnag, rydym yn rheoli hyn trwy fonitro trylwyr. 

Gall dringo arwain at anaf difrifol. 

Mae yna nifer o blanhigion a blodau gwyllt, ac er bod y rhain yn beillwyr gwych gallant fod yn wenwynig i ymwelwyr ac anifeiliaid; rydym yn eich cynghori'n gryf i beidio â chyffwrdd na chaniatáu i gŵn fwyta unrhyw lystyfiant.

Efallai y bydd mynediad yn cael ei rannu neu bod tir fferm cyfagos a allai gynnwys gwartheg pori neu anifeiliaid fferm.

Gwyliwch ein ffilm iechyd a diogelwch cyn ymweld â safleoedd Cadw.

Iechyd a Diogelwch / Health and Safety

Rhowch wybod am unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol fel dringo, graffiti ac ati i CadwAccidentsReports@llyw.cymru

Mae’r arwyddion canlynol i’w gweld o amgylch y safle mewn ardaloedd risg allweddol, cymerwch sylw ohonynt lle bo’n briodol.

Wyneb llithrig neu anwastad icon

Wyneb llithrig neu anwastad

Golau gwael icon

Golau gwael

Toeau Isel icon

Toeau Isel

Cwymp sydyn icon

Cwymp sydyn

Cyfarwyddiadau

Google Map
Ffordd: I’r Gog. o’r A4080, 1m (1.6km) i’r Dwy. De Ddwy. o Landdaniel Fab. Llanfair PG 2m (3.2km).
Beic: RBC Llwybr Rhif 8 (1.8km/1.1mllr).

Cod post LL61 6EQ

what3words: ///tirlunio.anogwr.mellten

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50.