Skip to main content

Arolwg

Anheddiad cynhanes gyda chysylltiadau Rhufeinig a chanoloesol

Mae’r lloc unionlin hwn o ffosydd a chloddiau dwbl yn meddu ar hanes cymhleth ac weithiau amheus. Yn sgil ei safle ar dir cors isel, cred rhai y gallasai fod ar un adeg yn dyddyn amffosog canoloesol, ac mae cloddiadau wedi datgelu darnau arian canoloesol ac arteffactau Rhufeinig yn dyddio o’r 3edd ganrif. Fodd bynnag, mae’r eitemau hyn fel petaent wedi’u gadael gan breswylwyr diweddarach yr anheddiad yn hytrach na’i adeiladwyr gwreiddiol, gydag ymchwiliadau i safleoedd tebyg mewn mannau eraill yng Nghymru’n awgrymu bod Caer Lêb yn tarddu o’r Oes Haearn.


Amseroedd agor

Bob dydd 10am–4pm

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr


Prisiau

Categori Price
Costau mynediad
Am ddim

Cyfleusterau

Croeso i gŵn icon Polisi dronau icon Dim ysmygu icon

Cyfarwyddiadau

Ffordd
3/4m (1.2km) i’r Gor. Gog. Orll. o Frynsiencyn, oddi ar yr A4080
Rheilffordd
Llanfair PG 5m (8km)
Beic
RBC Llwybr Rhif 8 (800m/875 llath).

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0871 200 2233 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 08457 48 49 50.