Skip to main content

Arolwg

Meini hir Neolithig dan len o ddirgelwch  

Yn sefyll ar fryncyn a golygfeydd panoramig o Eryri y tu ôl iddo, tirnod trawiadol yw Bodowyr. Cynhelid y maen capan anferth, siâp madarchen yn wreiddiol gan bedwar maen hir, ac un ohonynt wedi cwympo ar ryw adeg dros yr ychydig filenia diwethaf. Credir bod pumed garreg fyrrach yn nodi’r hyn a arferai fod yn fynedfa i’r beddrod. Wedi’i orchuddio’n wreiddiol â phridd a’i adeiladu yn yr oes Neolithig (Oes Newydd y Cerrig), mae’n fwyaf tebygol o fod yn fedd cyntedd a ddefnyddid at gladdu cymunedol. Fodd bynnag, ni chloddiwyd y safle erioed felly dirgelwch o hyd yw pwy neu beth sydd wedi’i gladdu yma.     


Amseroedd agor

Bob dydd 10am–4pm

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr


Prisiau

Categori Price
Costau mynediad
Am ddim

Cyfleusterau

Polisi dronau icon Dim ysmygu icon

Cyfarwyddiadau

Ffordd
Ger fferm Bodowyr, 11/4m (2km) i’r Dwy. o Langaffo, oddi ar y B4419. Llanfair PG 5m (8km).
Rheilffordd
Llanfair PG 5m (8km).
Beic
RBC Llwybr Rhif 8 Ar y Llwybr

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50.