Skip to main content

Arolwg

Dau o’r un anian

Mewn cae wrth ymyl pen deheuol Llyn Llywenan, y llyn naturiol mwyaf ar Ynys Môn, dim ond 7 troedfedd/2.1m sy’n gwahanu’r pâr hwn o feddrodau Neolithig (Oes Newydd y Cerrig). Er eu bod yn agos i’w gilydd, nid yw aliniad y beddrodau’n gadael lle o gwbl i fynedfa dramwyfa gyffredin, gan awgrymu eu bod wedi’u hadeiladu a’u defnyddio ar wahanol adegau yn y cyfnod Neolithig. O’r ddau, y beddrod deheuol sydd yn y cyflwr gorau, gyda’i faen capan mawr yn sefyll o hyd ar bedwar unionsyth.

Nid ein cyndadau hynafol oedd unig breswylwyr y beddrod – tua dechrau’r 1800au, dywedir bod teulu a drowyd allan o’i gartref wedi’u defnyddio’n lloches.


Amseroedd agor

Bob dydd 10am–4pm

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr


Prisiau

Categori Price
Costau mynediad
Am ddim

Cyfleusterau

Dim dronau icon Dim ysmygu icon

Nid yw Cadw yn caniatáu hedfan dronau o’u safleoedd nac uwchlaw eu safleoedd. Yr unig rai sydd â hawl i wneud hynny yw contractwyr sydd wedi’u comisiynu i gyflawni dyletswyddau penodol. Bydd y contractwyr hynny yn cyflawni gofynion CAA yn llawn ynghyd â bod a sicrwydd yswiriant ac yn gweithredu dan amodau sydd wedi’u rheoli.

Ni chaniateir ysmygu.


Cyfarwyddiadau