Tomen ganoloesol lle arferai castell hirgoll sefyll
Mae’r domen bridd anferthol hon yn nodi safle castell cyntaf Rhuddlan. Adeiladwyd y domen gyntaf ym 1073 gan Robert o Ruddlan uwchlaw Afon Clwyd, a buasai amddiffynfeydd coed ar ei phen, er bod strwythur o gerrig wedi’i godi efallai’n ddiweddarach.
Symudodd y castell rhwng dwylo’r Cymry a’r Saeson nifer o weithiau yn ystod yr 11eg a’r 12fed canrifoedd trwblus, nes i Gastell Rhuddlan gymryd ei le – wedi’i adeiladu ychydig bellter i ffwrdd gan Frenin Edward I ym 1277.
Categori | Price |
---|---|
Costau mynediad |
Am ddim
|
Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau
Ni chaniateir ysmygu.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50