Ystafell Ddianc y Rhyfelglod
Yn ystod Calan Gaeaf, ymunwch â ni yng Nghastell Conwy i gael profiad brawychus mewn ystafell ddianc.
Darganfyddwch gyfrinachau’r dewin drwg-enwog, Maldwyn mab Diafol, a phrofwch eich sgiliau drwy ddianc o siambr y dewin!
Dros saith can mlynedd yn ôl, fe wnaeth Brenin Lloegr ddal un o’i elynion pennaf, dewin Cymreig o’r enw Maldwyn mab Diafol.
Cadwyd Maldwyn yn garcharor yng Nghastell Conwy, wedi’i gloi yn Nhŵr y Capel am flwyddyn a diwrnod. Fodd bynnag, y bore wedi Calan Gaeaf yn 1303, datglodd ceidwaid y carchar siambr Maldwyn, ond roedd y dewin wedi diflannu.
Saith gant ac ugain mlynedd yn ddiweddarach, mae cell Maldwyn wedi’i hailagor. Bydd ymwelwyr yn cael cyfle i ddatrys dirgelwch Maldwyn mab Diafol, ac i ddianc o siambr y dewin eu hunain.
Ar gyfer timau o 2 - 6 chwaraewr; £4 y chwaraewr (yn ogystal â’r tâl mynediad arferol).
Addas ar gyfer ymwelwyr 10+. Gall pob plentyn dan ddwy ar bymtheg chwarae gyda goruchwyliaeth oedolyn.
Prisiau
Categori | Price |
---|---|
Aelod - Ymunwch rŵan |
Am ddim
|
Oedolyn |
£11.90
|
Teulu* |
£38.10
|
Pobl anabl a chydymaith |
Am ddim
|
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr** |
£8.30
|
Pobl hŷn (Oed 65+) |
£11.30
|
*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim **Mae angen dangos cerdyn adnabod myfyriwr â llun wrth fynd i mewn. Mae deiliaid cardiau Golau Glas ac aelodau a chyn-aelodau Lluoedd Arfog EF yn cael 10% oddi ar bris mynediad (ddim ar gael ar-lein). |