Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau
Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Castell Coch
Wedi ei gyhoeddi

Mae'r sgaffaldiau wedi dod i lawr yn y castell eiconig gan ddatgelu'r coch hanesyddol go iawn – mewn pryd ar gyfer y Nadolig.

Mae'r sgaffaldiau sydd wedi gorchuddio Castell Coch ers dros flwyddyn a hanner wedi cael eu tynnu i lawr gan ddatgelu paent coch y castell sydd wedi'i adfer yn sylweddol  – yn barod ar gyfer dathliadau poblogaidd y Nadolig.

Roedd y gwaith oedd angen y sgaffaldiau ar ei gyfer ers mis Ebrill 2024 yn rhan o raglen gadwraeth barhaus Cadw yng Nghastell Coch. Ers 2018, mae Cadw wedi gwarchod y waliau allanol a'r simneiau i ddiogelu addurniadau mewnol y castell sy'n arwyddocaol yn rhyngwladol.

Daw'r dadorchuddio hwn mewn pryd ar gyfer digwyddiadau Nadolig y castell, sy'n cynnwys Groto Siôn Corn poblogaidd y castell.

Yn ystod y broses gadwraeth, datgelodd arbenigwyr liw paent coch 'gwreiddiol' y castell, yn dilyn dadansoddiad gwyddonol manwl o samplau paent, sy'n dyddio'n ôl i'r 1880au.

Nododd ymchwilwyr paent pensaernïol hyd at un ar bymtheg o gamau o ailaddurno ers cwblhau'r castell ym 1881. Datgelodd yr ymchwil hwn fod y paent gwreiddiol yn fath oren o goch - yn wahanol iawn i'r coch tywyllach a oedd wedi esblygu dros ddegawdau dilynol o ailbaentio.

Darganfuwyd sampl cyfeirio allweddol o dan y rheilen llaw ar y balconi wrth ymyl Ystafell Wely Lady Margaret yn Nhŵr y Gegin. Roedd man cysgodol wedi cadw olion y cynllun gwreiddiol.

Wedi'i enwi yn 'Coch Castell Coch 2025', bydd Cadw yn defnyddio’r lliw yma o hyn ymlaen i addurno gwaith pren y castell, gan gynnwys ffenestri, drysau, caeadau, ffasgias a gwteri.

Dywedodd Dr Kate Roberts, Prif Weithredwr Cadw: 

"Mae Castell Coch wedi cyfareddu ymwelwyr ers cenedlaethau gyda'i brydferthwch a'i leoliad rhamantus, ond mae blynyddoedd wedi mynd heibio ers inni allu gweld y coch gwreiddiol a roddodd liw ac enw i'r castell.

"Mae'n dda gwybod pan fydd ymwelwyr yn gweld Castell Coch yn 2026, y byddan nhw'n profi rhywbeth llawer agosach at yr hyn a fwriadwyd 135 mlynedd yn ôl. Mae Castell Coch yn arbennig o hardd dros y Nadolig a rydym yn falch iawn o ail-agor y castell yn llawn yn barod ar gyfer cyfnod yr ŵyl i deuluoedd ei fwynhau."

Gall teuluoedd weld y coch newydd drostynt eu hunain y Nadolig hwn, gyda Siôn Corn yn ôl yn ei groto Nadoligaidd ar gyfer y rhai ifanc. Mae'r sesiynau'n cynnwys mynediad i'r groto, crefftau, pypedwr a'r cyfle i ysgrifennu llythyr at Siôn Corn.

Mae sesiynau ar gael ar wahanol ddyddiadau rhwng 5 a 20 Rhagfyr a rhaid eu harchebu ar-lein ymlaen llaw, ac mae angen prynu tocynnau mynediad i oedolion.