Skip to main content
Wedi ei gyhoeddi

43 o gestyll, abatai a safleoedd hanesyddol eraill heb staff i ailagor ledled Cymru

Mae drysau safleoedd treftadaeth Cymru wedi bod ar gau ers 18 Mawrth ond heddiw (4 Gorffennaf), mae Cadw wedi cyhoeddi cynlluniau i ailagor rhai henebion awyr agored heb staff.

O ddydd Llun, 6 Gorffennaf, bydd aelodau o’r cyhoedd yn gallu ymweld yn ddiogel â rhai o’r 105 o safleoedd treftadaeth heb staff ledled Cymru — o Siambr Gladdu Sant Llwyneliddon ym Mro Morgannwg i Briordy Hwlffordd yn Sir Benfro a Chastell Trefaldwyn  ym Mhowys.

Bydd henebion eraill sydd heb staff yng ngofal Cadw yn ailagor yn nes ymlaen yn yr haf — cyn gynted ag y bydd gwaith cynnal a chadw hanfodol ar y safle, asesiadau risg a mesurau diogelwch newydd wedi’u cwblhau a’u cyflwyno, er mwyn sicrhau profiad diogel i ymwelwyr yn unol â chanllawiau cadw pellter cymdeithasol.

Mae Cadw yn annog ymwelwyr i gadw Cymru yn ddiogel drwy osgoi teithio’n bell i’r safleoedd hyn lle bo hynny’n bosibl. Gall ymwelwyr ddarganfod pa henebion sydd heb staff sydd ar agor yn eu hardal leol ar wefan Cadw.

Ar ben hynny, yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, mae’n rhaid i ymwelwyr lynu wrth reolau cadw pellter cymdeithasol bob amser a dim ond cwrdd ag un aelwyd arall pan fyddan nhw ar y safle. Ni chaniateir barbeciw nac yfed alcohol yn unrhyw heneb chwaith.

Bydd Cadw yn monitro diogelwch pob safle treftadaeth drwy wahodd ymwelwyr i roi adborth mewn arolwg ar-lein — sydd ar gael drwy godau QR ar arwyddion ym mhob heneb.

Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, mae Cadw hefyd yn paratoi i ailagor y rhan fwyaf o’i gestyll, abatai a thai hanesyddol sydd â staff yn nes ymlaen yn yr haf — a fydd yn golygu cyflwyno canllawiau ymweld newydd a chyfyngu ar nifer yr ymwelwyr drwy brynu tocynnau ar-lein o flaen llaw.

Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth:

“Mae safleoedd treftadaeth heb staff Cadw yn amrywio o gestyll gwych a adeiladwyd gan Dywysogion Cymru i gapeli hanesyddol a beddrodau Neolithig, a rhai o’r rheiny dros 5,500 mlwydd oed.

“Rydyn ni’n falch iawn o allu dechrau llacio’r cyfyngiadau mynediad cyhoeddus i safleoedd dethol heb staff – yn enwedig er budd cymunedau lleol sy’n aml yn defnyddio’r mannau awyr agored hyn ar gyfer llesiant ac ymarfer corff.

"Fodd bynnag, iechyd a diogelwch y cyhoedd yw ein prif flaenoriaeth yn ystod y cyfnod hwn, felly, er mwyn cadw ein safleoedd heb staff ar agor ac yn ddiogel i bawb, gofynnwn yn gwrtais i’r rheini sy’n ymweld, wneud hynny’n barchus ac yn gyfrifol.

“Ac er bod dydd Llun 6 Gorffennaf yn nodi ailagor 43 o safleoedd treftadaeth heb staff yng Nghymru, bydd holl henebion eraill Cadw ar gau i’r cyhoedd am y tro.”

I gael gwybod pa safleoedd Cadw heb staff sydd wedi ailagor yn eich ardal leol, ewch i Cadw.llyw.cymru, chwiliwch am Cadw ar Facebook neu dilynwch @CadwWales neu @CadwCymru ar Twitter.