Beddrod Neolithig unig â chysylltiadau â chwedl Arthur
Saif y beddrod Neolithig (Oes Newydd y Cerrig) moel a mawrwych hwn ar ei ben ei hun yng nghanol cae ar gyrion Caerdydd. Fe’i gorchuddiwyd yn wreiddiol gan domen bridd tua 90 troedfedd / 27m o hyd, ond dim ond olion hon sydd yma bellach, gan adael ei feini enfawr yn gwbl agored i’r nen.
Y mwyaf yw’r capfaen enfawr, sy’n dal i gael ei gynnal gan dri maen unionsyth anarferol o dal. Dangosodd gwaith cloddio yn 2012 fod y beddrod siambr wedi'i chladdu yn wreiddiol o fewn carnedd fawr o gerrig 30m o hyd a 12m o led. Nid yw'r siambr ei hun erioed wedi cael ei chloddio, felly mae pwy neu beth sydd wedi'i gladdu yma yn parhau i fod yn ddirgelwch.
Er gwaethaf ei darddiadau Neolithig, gallai enw’r safle ddeillio o chwedl Arthur Culhwch ac Olwen, sy’n ymddangos mewn dau destun o’r 14eg ganrif.
Bob dydd 10am–4pm
Mynediad olaf 30 munud cyn cau
Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr
Categori | Price |
---|---|
Costau mynediad |
Am ddim
|
Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau
Ni chaniateir ysmygu.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50