Skip to main content
Wedi ei gyhoeddi

Gyda chostau byw uchel yn effeithio teuluoedd ar draws y wlad, Medi hwn gall ymwelwyr fwynhau cannoedd o safleoedd hanesyddol ledled Cymru am ddim.

Mae Cadw wedi cyhoeddi bod Drysau Agored yn dychwelyd y Medi hwn – gŵyl flynyddol sy’n datgloi rhai o safleoedd hanesyddol mwyaf anhygoel a rhagorol Cymru.

Drwy gydol Medi, bydd dros 200 o safleoedd hanesyddol ar draws Cymru yn cynnig llu o ddigwyddiadau cyffrous am ddim, gan gynnwys teithiau tywys a phrofiadau ymdrochol – rhai ohonynt nad sydd wedi bod ar agor i’r cyhoedd o’r blaen.

Mae’r ymgyrch Drysau Agored yn rhan o ŵyl ehangach Diwrnod Treftadaeth Ewropeaidd – yn codi ymwybyddiaeth o gyfoethogrwydd ac amrywiaeth diwylliannol ar draws y cyfandir.

Mi fydd yn cynnig cyfle unigryw i bobl o bob oed i gysylltu â’r gorffennol, profi diwylliant a datgelu’r holl hanesion sydd wedi llunio Cymru fel cenedl.

Fel rhan o’r ŵyl, bydd 16 o safleoedd Cadw gan gynnwysCastell TalacharnCastell Dinbych a Chaer Rhufeinig Caerllion yn agor eu drysau am ddim i’r cyhoedd, gan annog ymwelwyr i archwilio beth sydd ganddynt i’w gynnig.

Dywedodd Ffion Reynolds, Rheolwr Treftadaeth a Digwyddiadau yn Cadw: 

“Rydym yn gyffrous i groesawu ymwelwyr yn ôl i’r lleoliadau hynod hyn sy’n cymryd rhan yn Drysau Agored, ac mae gan bob un ohonynt ei stori ei hun i’w hadrodd.

“Mae’r digwyddiad Drysau Agored yn gyfle i ni arddangos amrywiaeth a gwydnwch pensaernïaeth hanesyddol Cymru mewn ffordd sy’n hygyrch i bawb. Drwy agor y lleoedd hyn am ddim, rydym yn gobeithio y bydd pawb yn cael y cyfle i gael blas ar hanes a diwylliant gwreiddiedig ein gwlad a chwarae rhan weithredol yn y gwaith o ddiogelu’r lleoliadau hyn ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.”

Gyda chymaint o dirnodau hanesyddol i ddewis ohonynt, mae yna fil o resymau i ymweld y mis Medi hwn. Dyma rai o’r lleoliadau sy’n cymryd rhan ledled Cymru:

Abaty Margam ac Amgueddfa Cerrig Margam

Dewch i ymweld ar ddydd Sadwrn 9 a Sul 10 Medi, amseroedd amrywiol

Am y tro cyntaf erioed, bydd Abaty Margam yn agor ei ddrysau am ddim ac yn cynnig teithiau tywys fel rhan o’r ŵyl. Bydd ei bensaernïaeth gothig a’i hamgylchoedd tawel yn eich gadael mewn syndod wrth i chi ymgolli mewn canrifoedd o hanes.

Ac ar yr un penwythnos, bydd Cadw yn agor ei Amgueddfa Cerrig Margam - trysorfa o dros 30 o gerfiadau carreg hynafol yn dyddio o ddyddiau cynnar Cristnogaeth. Bydd teithiau am ddim o amgylch yr amgueddfa yn cynnig cipolwg cyffrous i ymwelwyr ar y creiriau oesol, gan gynnwys y marchog o'r 14eg ganrif wedi'i wisgo mewn post cadwyn, a'r gargoyle anhygoel.

Tŷ Tredegar

Dewch i ymweld ar ddydd Sul 3 Medi, 11:00 – 16:30

Archwiliwch un o ryfeddodau pensaernïol Cymru sy'n swatio yng nghanol 90 erw o erddi a pharcdir gwyrddlas. Yn ystod gŵyl Drysau Agored, gall teuluoedd ymweld â’r lleoliad godidog hwn sydd wrth galon treftadaeth Casnewydd, sy’n cael ei gydnabod fel un o fannau harddaf Prydain yn yr 17eg ganrif.

Castell Dinbych

Dewch i ymweld ar ddydd Sadwrn 16 Medi a dydd Sul 17  Medi, 10:00 – 16:00 

Darganfyddwch ryfeddodau Castell Dinbych gyda Drysau Agored lle byddwch yn cael eich cludo yn ôl i'r pinacl hwn o gyfnod y rhyfel canoloesol gyda synau ceffylau a milwyr yn gorymdeithio yn atseinio trwy ei waliau.

Eglwys Gadeiriol Dewi Sant a Llys yr Esgob Tyddewi

Archebwch ymlaen llaw i’r 23, 24, a’r 29  Medi, amseroedd amrywiol   

Wedi'i rhestru ymhlith adeiladau canoloesol mwyaf rhyfeddol y DU, mae Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn dyst i hanes. Mae Drysau Agored yn rhoi cyfle i ymwelwyr archwilio rhannau o’r Gadeirlan na welir yn aml, a gall gwesteion fentro i Balas yr Esgob canoloesol gerllaw yn ogystal â mwynhau Cân Gorawl yn cael ei chanu gan Gôr Eglwys Gadeiriol Tyddewi.

Castell a Gerddi Powis

Dewch i ymweld ar ddydd Sadwrn 16 Medi, 10:00 – 17:00

Am y tro cyntaf erioed, mae gwahoddiad i ymwelwyr i brofi Castell a Gerddi Powis am ddim, gan roi mynediad unigryw iddynt i'r gaer hanesyddol sy'n dyddio'n ôl i'r 13eg ganrif. Wedi’i orchuddio â gwyrddni gyda choed afalau canrif oed a therasau Eidalaidd, gallwch fwynhau golygfeydd ar draws Dyffryn Hafren neu fentro dan do i ddarganfod ei gasgliad helaeth o luniau, cerfluniau a thapestrïau.

Gerddi Dyffryn

Archebwch ymlaen llaw i ddydd Sadwrn 23 Medi a dydd Sul 24 Medi, 10:00 – 17:00 

Archwiliwch y 55 erw o Erddi Dyffryn a’r cyfan sydd ganddo i’w gynnig dros benwythnos llawn antur awyr agored. Mae’r Ardd Edwardaidd, sydd wedi’i hadnewyddu’n ofalus, ym Mro Morgannwg yn cynnwys lawnt helaeth, arboretwm yn cynnwys coed o bob rhan o’r byd, tŷ gwydr sy’n gartref i gasgliad mawr o blanhigion egsotig, a mannau chwarae Boncyffion coed naturiol i blant eu mwynhau. Mae archebu ymlaen llaw ar gyfer y penwythnos hwn yn hanfodol.

Castell Penrhyn

Dewch i ymweld ar ddydd Sadwrn 9 Medi a dydd Sul 10 Medi, 10:00 – 16:00  

Y tu ôl i garreg aruthrol Castell Penrhyn mae byd moethus, celfyddyd gain, a hanes sy’n cydblethu â siwgr a ffortiwn llechi. Archwiliwch ei diroedd eang gyda golygfeydd godidog o Eryri, gydag anturiaethau a dringo coed i'r rhai bach.

Caer Rhufeinig Caerllion

Dewch i ymweld ar ddydd Sadwrn 9 Medi a dydd Sul 10 Medi, 11:00 – 16:00  

Ymunwch ag arbenigwr Rhufeinig Cadw am daith dywys am ddim o amgylch y Barics, ffos ac Amffitheatr yng Nghaerllion a darganfod olion helaeth un o safleoedd milwrol Rhufeinig mwyaf a phwysicaf Ewrop.

Castell Talacharn,

Dewch i ymweld ar ddydd Sadwrn 23 a dydd Sul 24 Medi, 11:00 – 16:00 

Dewch i weld adfeilion mawreddog canoloesol Castell Talacharn am ddim gyda’i waliau hynafol a golygfeydd panoramig syfrdanol ar draws y dref a’r aber. Dysgwch sut ysbrydolodd y plasty carreg hwn eiriau enwog yr awduron Dylan Thomas a Richard Hughes wrth i chi edrych ar y crair trawiadol o'r oes a fu.

Canolfan Treftadaeth Heddlu De Cymru

Archebwch ymlaen llaw i’r 12, 13, 15, 19, 20, a 22 Medi, 10:00 – 16:00 

Wedi'i adeiladu yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gwahoddodd Drysau Agored ymwelwyr i archwilio hwn gyda theithiau tywys am ddim. Cymerwch ran mewn gweithgareddau safle trosedd, gadael i blant fod yn dditectifs bach am y dydd, a thrin offer heddlu o 100 mlynedd yn ôl. Mae lleoedd ar y teithiau hyn yn gyfyngedig felly mae angen archebu ymlaen llaw ar gyfer y digwyddiadau hyn.

Gerddi Bodnant

Dewch i ymweld ar ddydd Sadwrn 9 Medi a dydd Sul 10 Medi, 09:30 – 17:00 

Darganfyddwch brydferthwch arbennig Gardd Bodnant, wedi’i gosod yn erbyn mynyddoedd hudolus Carneddau Eryri. Gyda harddwch naturiol trwy gydol y flwyddyn, mae'r ardd yn ffynnu mewn arlliwiau bywiog, gan ddarparu ar gyfer pob dewis ac ysgogi cyffro ym mhob ymwelydd.

Castell y Waun

Dewch i ymweld ar ddydd Sadwrn 16 Medi, 10:00 – 17:00 

Gyda dros 700 mlynedd o hanes, Castell y Waun yw'r olaf o gestyll teyrnasiad Edward I sy'n dal i gael ei fyw ynddo heddiw. Mae gan y castell du mewn moethus a chasgliad eclectig o ddodrefn, lluniau a thapestrïau cyfoethog a fydd yn swyno ymwelwyr.

Capel Talacharn

Dewch i ymweld ar ddydd Sadwrn 23 a dydd Sul 24 Medi, amseroedd amrywiol

Bydd y capel hwn o’r 19eg Ganrif yn agor ei ddrysau i ymwelwyr sydd am archwilio’r manylion o fewn ei waliau cysegredig. Bydd arddangosfa o arteffactau lleol, ffotograffau, a straeon yn ymwneud â hanes Talacharn a'i thrigolion yn cael eu harddangos.

Cynghorir ymwelwyr i wirio manylion pob digwyddiad gan fod gofynion tocynnau yn amrywio ym mhob lleoliad.

Mae rhagor o fanylion, gan gynnwys rhestr o’r holl leoliadau sy’n cymryd rhan, amserlen gyflawn o ddigwyddiadau a gwybodaeth am docynnau, ar gael yn https://cadw.llyw.cymru/ymweld/be-syn-digwydd/drysau-agored