Skip to main content
Wedi ei gyhoeddi

O 6pm ddydd Gwener 16 Hydref, ni fydd pobl sy’n byw mewn ardaloedd yn y DU sydd â lefelau heintio uchel o ran y coronafeirws yn gallu prynu tocynnau ac ymweld â safleoedd Cadw

 

Mae'r mesur newydd hwn yn effeithio ar yr ardaloedd canlynol:

Cymru — Pob ardal sydd o dan glo lleol ar hyn o bryd.

Lloegr — Pob ardal Haen 2 a 3 yn Lloegr.

Yr Alban — Yr ardaloedd hynny yng nghanolbarth yr Alban sydd o dan gyfyngiadau uwch.

Gogledd Iwerddon — Gogledd Iwerddon gyfan.

Bydd unrhyw un sy’n byw yn yr ardaloedd hyn ac sydd eisoes wedi prynu tocyn i ymweld â safle Cadw yn cael cynnig ad-daliad llawn.

 

Nes y gallwn eich croesawu yn ôl yn bersonol, beth am ymweld â rhai o'n safleoedd mwyaf eiconig trwy deithiau rhithwir Drysau Agored Ar-lein!

Mae wedi'i ddylunio i weithio ar bob dyfais, felly y cyfan fydd ei angen arnoch yw cyfrifiadur bwrdd gwaith, ffôn symudol neu set VR i ymdrochi yn eich antur Drysau Agored Ar-lein dewisol.

Dewiswch ymhlith ein pecynnau cynnwys isod i gael gwybod mwy am ein profiadau rhithwir thematig: