Profiad o’r gorffennol gyda theithiau tywys newydd Cadw yr haf hwn
Mae Cadw yn gwahodd ymwelwyr i gamu i'r gorffennol a datgelu tapestri cyfoethog hanes Cymru gyda rhaglen estynedig o deithiau tywys yn rhai o safleoedd Cadw ledled Cymru.
Bydd tywyswyr arbenigol Cadw yn mynd ag ymwelwyr ar daith drwy amser i archwilio cestyll canoloesol, safleoedd crefyddol o gyfnod y Sistersiaid a'r straeon y tu ôl i'r henebion hanesyddol hyn.
Bydd y teithiau, sy'n dechrau ar 3 Mai, yn rhoi cyfle i ymwelwyr archwilio rhai o safleoedd hanesyddol gorau Cymru, o gaerau Rhufeinig a chestyll canoloesol i feddrodau Neolithig.
Dywedodd Gwilym Hughes, Pennaeth Cadw:
"Yn dilyn llwyddiant teithiau tywys yr haf diwethaf, rydym yn falch iawn o allu cynnig mwy fyth o gyfleoedd cyffrous i bobl ymchwilio i hanes rhai o lefydd hanesyddol mwyaf rhyfeddol Cymru.
“Bydd y teithiau hyn yn cael eu harwain gan dywyswyr arbenigol a byddant yn cynnig cyfle gwych i ymwelwyr ddysgu mwy am ein treftadaeth gyffredin.”
Bydd teithiau ar gael yn y safleoedd canlynol tan fis Medi (dyddiadau llawn isod):
- Barclodiad y Gawres
- Bryn Celli Ddu
- Cae'r Gors
- Hen Eglwys y Plwyf Llangar
- Castell Oxwich
- Capel y Rug
- Caer Rufeinig Segontium
- Abaty Glyn y Groes
- Castell Cilgerran
Bydd nifer y llefydd yn gyfyngedig ac, oherwydd y galw uchel, mae Cadw yn annog ymwelwyr i archebu eu tocynnau ar-lein yn cadw.llyw.cymru er mwyn osgoi cael eu siomi. Mae gostyngiadau ar gael i aelodau Cadw.
Mae aelodaeth Cadw yn cynnig mynediad diderfyn i dros 130 o lefydd hanesyddol ledled Cymru drwy gydol y flwyddyn, gyda phlant yn cael mynediad am ddim gyda phob aelodaeth oedolyn, gan gynnig ffordd unigryw i deuluoedd archwilio treftadaeth gyfoethog Cymru yr haf hwn.