Skip to main content
Wedi ei gyhoeddi

Dathliad ffotograffiaeth yn dod i atyniadau diwylliannol Cymru.

Bydd tymor newydd sbon o ffotograffiaeth yn ymweld ag atyniadau diwylliannol Cymru dros yr hydref, gyda chyfres o ddigwyddiadau, arddangosfeydd a gweithdai i’w cyflwyno gan Cadw, Amgueddfa Cymru-National Museum Wales a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn ôl y cyhoeddiad a wnaed heddiw (16 Hydref), bydd y tymor o ddigwyddiadau ffotograffiaeth yn cynnwys popeth o arddangosfeydd unigryw i weithdai syllu ar y sêr – a’r cyfan i anrhydeddu hanes a diwylliant eithriadol Cymru.

Gyda thymor awyr dywyll Cymru ar ei anterth, bydd Cadw’n annog ymwelwyr i ddarganfod rhai o safleoedd treftadaeth mwyaf ffotogenig y wlad wedi iddi nosi – gyda detholiad o ddigwyddiadau syllu ar y sêr yn digwydd tua diwedd mis Hydref.

Yn y cyfamser, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru’n gwahodd trigolion Cymru ac ymwelwyr â’r wlad fel ei gilydd i ddathlu harddwch Cymru drwy gyfrwng arddangosfa Casgliadau Cenedlaethol, a fydd yn arddangos gweithiau gan ffotograffwyr adnabyddus gan gynnwys Philip Jones Griffiths, Glynne Pickford a Nick Treharne.  

Ac mae rhagor – i gwblhau’r dathlu, mae Amgueddfa Cymru-National Museum Wales yn paratoi i lansio tair arddangosfa ffotograffiaeth newydd o bwys yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

I bawb sydd â diddordeb mewn seryddiaeth, bydd Castell Cricieth ac Abaty Glyn y Groes yn croesawu’r darlledwr a’r hanesydd brwd Rhys Mwyn, ar gyfer digwyddiad arbennig rhyngweithiol o syllu ar y sêr ar nos Wener 25 Hydref a nos Sul 27 Hydref, rhwng 7pm a 9.30pm.

O roi cynnig ar brofi hen ysbienddrychau i ddod o hyd i grwpiau o sêr sydd i’w gweld ledled yr awyr dywyll ddilygredd, bydd cyfoeth o ddewis gan bawb sy’n mynychu’r digwyddiad, gyda sawl cyfle i weld awyr y nos yn ei holl ogoniant – a’r cyfan yn digwydd wrth ddarganfod y cysylltiadau rhwng hanes Cymru a’r sêr.

Gellir prynu tocynnau ar gyfer y digwyddiadau Syllu ar y Sêr yng Nghastell Cricieth ac Abaty Glyn y-Groes am £10 y pen oddi ar wefan Cadw.

Yn ogystal, bwriedir cyhoeddi mwy o ddigwyddiadau ffotograffiaeth mewn sawl un o safleoedd eraill Cadw yn ddiweddarach eleni.

Bydd digwyddiad ffotograffiaeth cyntaf Llyfrgell Genedlaethol Cymru’n digwydd ar ddydd Gwener 25 Hydref am 1pm, pan wahoddir ymwelwyr i brofi Aberystwyth drwy gyfwng lens ddethol Glynne Pickford. Ynghyd â chael cyfle i ddatgelu hen luniau na chawsant eu cyhoeddi, bydd ymwelwyr yn cael eu tywys ar daith unigryw drwy hanes y dref, dan arweiniad arbenigol Will Troughton, Curadur Ffotograffiaeth y Llyfrgell.

Yna, bydd Nick Treharne, y ffotograffydd sy’n arbenigo ar Gymru, yn cynnal sgwrs unigryw yn y Llyfrgell am 1pm ddydd Llun 4 Tachwedd, i drafod ei yrfa a’i waith diweddaraf: “Prosiect Cymru Gyfoes: y bobl yr ydw i’n cwrdd â nhw, y pethau rwy’n eu gweld’.

Mae modd cael tocynnau rhad ac am ddim ar gyfer digwyddiadau Glynne Pickford a Nick Treharne yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru drwy fynd i wefan y Llyfrgell: events.library.wales / drwy ffonio 01970 632548. Rhaid archebu ymlaen llaw er mwyn cael mynediad i bob digwyddiad.

Nodir dechrau’r Tymor Ffotograffiaeth 2019-20 yn yr Amgueddfa gan y ffaith y bydd gwaith gan y ffotograffwyr amlwg August Sander, Bernd a Hilla Becher a Martin Parr yn cyrraedd ac yn cael eu cyflwyno’n ddiweddarach y mis hwn – a bydd pob casgliad a arddangosir yn cael eu dangos yn y lleoliad am y tro cyntaf erioed yng Nghymru.

Bydd mynediad i’r tair arddangosfa’n rhad ac am ddim, ac ni fydd angen archebu ymlaen llaw.

Meddai’r Gweinidog dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, yr Arglwydd Elis-Thomas:

“Mae’n ddiamau fod Cymru’n llawn i’r ymylon o dirweddau deniadol, trefi hanesyddol, adeiladau mawreddog ac, yn fwyaf pwysig, y bobl liwgar sy’n galw’r wlad yn gartref – a phob elfen yn dod ynghyd i greu’r ffoto perffaith.

“Gobeithio y bydd y sylw cyffredinol hwn i ffotograffiaeth ar draws safleoedd treftadaeth Cymru, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn annog rhagor o bobl i ddal gwir hanfod ein gwlad syfrdanol hardd ar gamera yn ystod y tymor hwn.”

Nodwch os gwelwch yn dda fod nifer cyfyngedig o leoedd ar gael yn nigwyddiadau Syllu ar y Sêr Castell Cricieth ac Abaty Glyn y Groes (dydd Gwener 25 Hydref a dydd Sul 27 Hydref) a rhaid archebu ymlaen llaw ar wefan Cadw.

I gael rhestr gyflawn o ddigwyddiadau yn safleoedd Cadw ar draws Cymru, ewch i gov.wales/cadw, dewch o hyd i Cadw ar Facebook neu dilynwch @CadwWales ar Twitter.

Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael yn nigwyddiadau Glyn Pickford a Nick Treharne yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru (y naill ar ddydd Gwener 25 Hydref 2019 a’r llall ar ddydd Llun 4 Tachwedd 2019) a rhaid archebu ymlaen llaw ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru / drwy ffonio 01970 632548.

Mae’r tair arddangosfa ffotograffiaeth newydd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd – Martin Parr yng Nghymru, YSTAFELLOEDD ARTISTIAID: August Sanders a Bernd a Hilla Becher: Gweledigaethau Diwydiannol, yn agor ar ddydd Sadwrn 6 Hydref, a bydd mynediad yn rhad ac am ddim; ni fydd angen archebu ymlaen llaw.