Awyr Dywyll Cestyll a Chytserau - Abaty Glyn y Groes
Ymunwch â ni am noson o syllu ar y sêr a hanes y gyda Rhys Mwyn a Swyddog Awyr Dywyll Parc Cenedlaethol Eryri. Dysgwch am sut y gwnaeth y sêr helpu i lunio hanes Cymru a rhoi cynnig ar ddefnyddio ein telesgopau.
Dewch am dro o gwmpas awyr y nos, gan weld grwpiau cyfarwydd ac anghyfarwydd o sêr hemisffer y gogledd, chwiliwch am sawl gwrthrych gofod pell fel nifwl Orïon.
Dangosir i chi sut i osod telesgop yn gywir hefyd, cyn edrych ar ac yna wneud ffotograffau o rai o olygfeydd ysblennydd y nos. Does dim angen gwybodaeth nac offer, ond croeso i chi ddod â’r ddau!
Cynghorir pawb sy’n dod i’r digwyddiad i wisgo dillad cynnes ac esgidiau addas, a dod â thortsh a blanced hefyd. Mae’r sesiynau’n addas i rai sy’n 12 oed a hŷn.
Byddwch yn barod i aros: dewch â rhywbeth i eistedd neu orwedd arno.
Sylwch y bydd y digwyddiad hwn yn dal i fynd ymlaen os yw'n gymylog, gan y bydd Rhys Mwyn yn dal i roi sgwrs ar hanes a'r sêr.
Prisiau
Categori | Price |
---|---|
Oedolyn |
£10
|
Consesiwn |
£8
|