Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau
Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Castell Coch
Wedi ei gyhoeddi

Mae ymchwil i baent hanesyddol yn datgelu gwir liw castell 'coch' enwog Cymru

Mae arbenigwyr cadwraeth wedi datgelu lliw paent coch gwreiddiol Castell Coch, y castell tylwyth teg eiconig, yn dilyn dadansoddiad gwyddonol manwl o samplau paent sy'n dyddio'n ôl i'r 1880au.

Mae Castell Coch, sydd o dan ofal Cadw, yn un o gestyll mwyaf poblogaidd Cymru, sy'n arbennig am ei ymddangosiad "tylwyth teg" hudolus. Er ei fod wedi tarddu fel porthdy hela canoloesol, y castell hardd a welwn heddiw yw gweledigaeth y dylunydd adnabyddus William Burges. Gweithiodd Burges i'r 3ydd Ardalydd Bute rhwng 1875 ac 1881 i greu campwaith Fictoraidd.

Mae'r paent coch nodedig ar waith pren allanol y castell - gan gynnwys ffenestri, drysau, caeadau, ffasgiau a gwteri - wedi bod yn ganolog i hunaniaeth Castell Coch. Fodd bynnag, roedd blynyddoedd o ailbaentio wedi trawsnewid y lliw yn raddol yn rhywbeth hollol wahanol i weledigaeth wreiddiol y pensaer Fictoraidd William Burges.

Archwiliodd yr ymchwilydd paent pensaernïol Lisa Oestreicher sawl sampl o leoliadau ar draws y castell, gan nodi hyd at un ar bymtheg o wahanol gamau o ailaddurno ers cwblhau'r castell ym 1881. 

Datgelodd yr ymchwil hon fod gorffeniad y paent gwreiddiol yn arlliw oren o goch - yn wahanol iawn i'r coch tywyllach a oedd wedi esblygu dros ddegawdau dilynol o ailbaentio.

Darganfuwyd sampl cyfeirio allweddol o dan y rheilen law ar y balconi ger Ystafell Wely yr Arglwyddes Margaret yn Nhŵr y Gegin - lleoliad cysgodol a helpodd i gadw olion y cynllun gwreiddiol.

Bydd y paent newydd, o'r enw 'Castell Coch Red 2025', yn cael ei gynhyrchu a'i ddefnyddio ar gyfer yr holl waith ailaddurno allanol yn y dyfodol. 

Dywedodd Dr Kate Roberts, Prif Weithredwr Cadw:

"Mae Castell Coch wedi cyfareddu ymwelwyr ers cenedlaethau gyda'i dyrau eiconig a'i leoliad rhamantus, ond roedd y paent coch nodedig sy'n rhoi ei enw i'r castell wedi symud yn raddol oddi wrth weledigaeth wreiddiol William Burges yn dilyn dros 135 mlynedd o ailbaentio.

"Mae'r ymchwil ofalus hon wedi caniatáu inni ddarganfod sut olwg oedd ar y coch hwn pan gafodd y castell ei gwblhau gyntaf. Mae'n hynod o foddhaol gwybod pan fydd ymwelwyr yn gweld Castell Coch yn y dyfodol, byddant yn profi rhywbeth llawer agosach at yr hyn a fwriadodd Burges.

"Mae'r gwaith hwn yn rhan o'n hymrwymiad ehangach i warchod a chyflwyno lleoedd hanesyddol Cymru mewn ffordd mor ddilys â phosibl, gan sicrhau y gall cenedlaethau’r dyfodol ddod i fwynhau a deall y trysorau hyn."

Roedd ceisio dod o hyd i baent a oedd yn cyfateb i baent 140 mlwydd oed yn dipyn o her. Mae pigmentau coch yn eithriadol o ansefydlog, yn pylu mewn golau ond yn tywyllu pan fyddant wedi'u gorchuddio gan haenau paent diweddarach. Er gwaethaf y cymhlethdodau hyn, mae arbenigwyr wedi llwyddo i lunio lliw newydd sy'n cynrychioli manyleb wreiddiol Burges.

Dywedodd Michael Davies, Pensaer Cadwraeth a weithiodd ar y prosiect:

"Er bod ymchwil fanwl ar baent wedi'i chynnal, roedd llawer i'w wneud o hyd cyn inni allu dewis y coch mwyaf priodol. Mae llawer o samplau paent wedi'u cynhyrchu ac mae llawer o drafodaeth wedi bod, ond rydym bellach mor falch o ddychwelyd i'r coch yr oedd William Burges wedi'i ddefnyddio 135 mlynedd yn ôl.

"Wrth ailbwyntio waliau Tŵr y Ffynnon, rydym hefyd wedi datgelu'r morter canoloesol pinc/oren yn rhannau isaf y waliau cerrig, a oedd wedi'u gorchuddio o'r blaen, gan ei gwneud hi'n haws gweld y gwahaniaeth rhwng y cyfnod canoloesol a'r cyfnod Fictoraidd o adeiladu."

Mae'r ymchwil hon yn rhan o raglen barhaus Cadw o waith cadwraeth yng Nghastell Coch, sydd wedi cynnwys gwaith atgyweirio i'r waliau allanol a'r simneiau ers 2018 i ddiogelu addurniadau mewnol y castell sy'n arwyddocaol yn rhyngwladol.