Drysau Agored - Eglwys St Margaret, Pontymister
Adeiladwyd yr eglwys hon yn arddull yr ‘adfywiad Gothig’ ym 1911, ac mae'n cynnwys llawer o nodweddion, dodrefn a ffitiadau gwreiddiol.
Eglwys agored – arddangosfa gelf o urddwisgoedd a chofnodion yr eglwys.
Cyfeiriad - Eglwys St. Margaret, Commercial St, Pontymister, Rhisga, NP11 7AF.
Mae gorsaf reilffordd Rhisga 10 munud ar droed o'r eglwys. Gwasanaeth bws 151, 56 o orsaf fysiau Casnewydd.
Mynediad i'r anabl a thoiled.
Does dim angen archebu lle.