Skip to main content

Mae Sefydliad y Gweithwyr Glofeydd Celynen a'r Neuadd Goffa yn ddau adeilad rhestredig Gradd II a Gradd II* yng nghanol Trecelyn yn ne Cymru. Mae Sefydliad y Gweithwyr (a agorwyd ym 1908) yn gofeb barhaol i'r glowyr a weithiodd mor galed i'w hadeiladu, ac mae'r Neuadd Goffa (a adeiladwyd ym 1924) yn gofeb i'r milwyr lleol a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Ar gyfer Drysau Agored, bydd teithiau tywys awr o hyd yn cael eu cynnig am ddim ar ddyddiau Sadwrn 7, 14 a 21 Medi, rhwng 11am a 2pm. Mae lle i 10 o bobl yr awr ar y teithiau tywys.

Rhaid archebu lle. Ewch i www.newbridgememo.co.uk i archebu neu ffoniwch 01495 243252.

Cyfeiriad - Neuadd Goffa Trecelyn, Stryd Fawr, Trecelyn, NP11 4FH.


Prisiau

Free

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 07 Medi 2024
11:00 - 14:00
Sad 14 Medi 2024
11:00 - 14:00
Sad 21 Medi 2024
11:00 - 14:00