Drysau Agored - Plasty Abertawe
Daeth y Plasty i feddiant y cyngor yn 1922, gan ddod yn breswylfa swyddogol i Arglwydd Faer Abertawe. Erbyn hyn, dyma un o'r ychydig dai Fictoraidd mawr sydd ar ôl yn yr ardal.
Bydd y digwyddiad hwn, gyda chefnogaeth Cadw, yn galluogi trigolion Abertawe i weld y Plasty,
adeilad sy’n rhan greiddiol o hanes Abertawe.
Bydd te neu goffi am ddim ar gael ar y diwrnod.
Ychydig iawn o leoedd parcio sydd ar gael ger y plasty.
Cyfeiriad - Y Plasty, Heol Ffynone, Uplands, Abertawe, SA1 6BX.
Mae'r tŷ ar lwybr bws rheolaidd.
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 20 Med 2025 |
10:30 - 16:30
|