Drysau Agored - Rose Cottage, Rhuthun
Mae Rose Cottage yn brawf nad oedd pob tŷ ddiwedd y Canol Oesoedd yn berchen i fasnachwyr cyfoethog. Yn y bôn, mae’n dŷ neuadd wedi’i fframio â phren, sydd wedi cadw rhywfaint o’i blethwaith a’i waith plastro gwreiddiol. Dim ond tair ystafell oedd yn yr adeilad, sy’n awgrymu mai teulu llai cyfoethog oedd yn berchen arno.
Roedd gwelliannau wedi’u gwneud, gan gynnwys y gwaith o osod lle tân yn yr 17eg ganrif ond, erbyn yr 20fed ganrif, roedd Rose Cottage yn dechrau dadfeilio. Yn y flwyddyn 2000, cafodd y gwaith o’i adfer gydnabyddiaeth gan Ymddiriedolaeth Ddinesig Cymru, a Chymdeithas Ddinesig Rhuthun yn lleol.
Does dim angen i chi ragarchebu tocynnau.
Cyfeiriad - Rose Cottage, Stryd y Rhos, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 1DU.
Mae Rose Cottage ar Stryd y Rhos (A494), ger Wern Fechan ar ochr yr Wyddgrug o Ruthun. Mae bysiau sy’n rhedeg rhwng Rhuthun a’r Wyddgrug yn pasio Rose Cottage.
Mae grisiau yn arwain at fynediad i’r eiddo.
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 13 Med 2025 |
10:00 - 16:00
|
Sul 14 Med 2025 |
10:00 - 16:00
|