Skip to main content

Ar un adeg, tir tameidiog o deyrnasoedd hynafol oedd Cymru. Tywysogion annibynnol oedd yn ei llywodraethu, wedi’u clymu gan iaith a deddfau cyffredin. Dros y canrifoedd, mae ffiniau Cymru wedi symud a newid. Am genedlaethau dirifedi, roedd cynhennau teuluol yn fynych ac ymrysonau’n rhemp. Ond daeth brenhinlin nerthol i dra-arglwyddiaethu yn y 13eg ganrif. Tywysogion Gwynedd oedd y cyntaf i reoli’r genedl gyfan, gan ddod ag undod i Gymru frodorol.

Ond nid tasg hawdd mohoni. Ar ôl 1066, sylweddolodd y tywysogion brodorol eu bod wedi’u gosod yn erbyn môr-ladron yn awyddus am dir yn cnocio ar eu drws: y Normaniaid.

Lloches y mynydd

Ffocws pŵer brenhiniaeth frodorol Cymru oedd Teulu Gwynedd, a gwmpasai ardal arw a ddiffinnir yn fras gan fynyddoedd Eryri. Byddai’n llywio materion Cymru yn y canrifoedd cythryblus cyn dyfodiad Brenin Lloegr Edward I ym 1272 a’i ymgyrchoedd yng Nghymru.

Ond pwy oedd y tywysogion brodorol hyn? Mae dau ffigwr hanesyddol yn amlwg iawn yn y stori. Yn y 13eg ganrif, mewn Cymru bendant, bu dau lywodraethwr dawnus wrth y llyw, sef Llywelyn Fawr (Llywelyn ap Iorwerth, 1173–1240) a Llywelyn y Llyw Olaf (Llywelyn ap Gruffydd, a fu’n llywodraethu o ryw 1247 i 1282).

Beth yw castell Cymreig?

Stori’r tywysogion yw stori’r gwrthdaro rhwng Cymru a Lloegr yn y canol oesoedd. Stori ydyw a adroddir mewn carreg. Adeiladwyd cestyll ‘enwogrwydd’ Eingl-Normanaidd Cymru – sef cestyll Caernarfon a Harlech a’u tebyg –drwy fawr draul gan Edward I. Yr un mor berthnasol er mwyn dirnad yr amseroedd cythryblus hyn yw’r amddiffynfeydd brodorol – y cestyll gwirioneddol Gymreig os mynnwch chi – a oedd yn gadarnleoedd i dywysogion Cymru.  

Arweinydd cwbl genedlaethol cyntaf Cymru oedd Llywelyn Fawr, ac yntau wedi’i enwi’n briodol. Erbyn tua 1230, roedd wedi cyfnerthu ei bŵer brenhinol drwy adeiladu Castell Criccieth. Adeiladodd gestyll carreg eraill hefyd, fel Castell y Bere, Dolwyddelan a Dolbadarn, wedi’u gosod yn glyfar yn edrych dros fylchau mynydd strategol, ffiniau a phorfeydd defaid cynhyrchiol.    

Lleoliad oedd popeth  

Mae’r bygythiol Gastell y Bere yn ddwfn yng nghefnwledydd Cader Idris fel petai’n tyfu’n organig o’r graig sy’n sail iddo. Mae Castell Dolbadarn wrth ymyl y llyn yn Llanberis yn gwarchod y ddyfodfa ogleddol at fwlch allweddol drwy fynyddoedd Eryri. Mae Castell Dolwyddelan unig - a adeiladwyd, yn fwy na thebyg, gan Llywelyn tua 1200 - yn cadw llygad barcud ar lwybr mynydd strategol arall o’i gefnen greigiog.

Maen dros faen

Mae cestyll eraill sy’n gwbl Gymreig yn cynnwys Castell Dinas Brân (Llangollen), Ewlo (ger yr Wyddgrug), a Dinefwr a Dryslwyn (y ddau yn Nyffryn Tywi ger Llandeilo).

Nodweddir cestyll Cymru, yn grai a real, gan eu tyrau siâp-D a phetryalog. A hwythau’n fach o’u cymharu â chaerau anferth Edward (dim ond ychydig bach o bŵer gwario’r brenin a oedd gan dywysogion Cymru), mae eu hawyrgylch yn gwneud iawn yn hawdd am eu diffyg ceinder pensaernïol. Ac mae’n werth cofio, yn wahanol i gestyll y Saeson,  na’u hadeiladwyd byth gyda choncwest mewn golwg. 

Y diwedd... a dechreuad newydd

Byr oedd undod Cymru o dan lywodraethu cryf, urddasol Llywelyn. Ar ôl ei farwolaeth, dychwelodd helbul ac ymrafael mewnol nes bod arweinydd pwerus newydd yn dod i’r adwy: Llywelyn y Llyw Olaf. 

Yn union fel enw ei dad-cu Llywelyn Fawr, mae enw banerwr newydd Cymru’n dweud y cyfan. Dechreuodd ar ei anterth pan gafodd ei gydnabod yn swyddogol yn Dywysog Cymru ym 1267 gan frenin Lloegr, Harri III.   

Cryfhaodd Llywelyn y Llyw Olaf gestyll presennol ond methodd yn hynod ag adeiladu pontydd gydag Edward, brenin newydd Lloegr, a ddaeth i rym ym 1272. Gan wrthod talu gwrogaeth, gwylltiodd Llywelyn Edward. Ac roedd hynny’n golygu rhyfel.

Gyrrwyd Llywelyn i Eryri ac erbyn 1277 fe’i hamddifadwyd o lawer o’i bŵer a’i diriogaeth. Cychwynnodd rhyfel eto ym 1282 yn arwydd o ddiwedd Llywelyn – a laddwyd mewn ysgarmes ger Llanfair-ym-muallt – a diwedd annibyniaeth Cymru.   

Daeth tro newydd ar stori tywysogion Cymru ym 1284 pan gyflwynodd Edward y buddugol ei fab bychan, ‘tywysog a anwyd yng Nghymru’, yng Nghastell Caernarfon, sef y Sais cyntaf o dywysog Cymru. Adlewyrchwyd y seremoni hon ym 1911 pan gafodd Brenin Edward VIII y dyfodol ei arwisgo’n Dywysog Cymru yng Nghastell Caernarfon, ac yna ym 1969 pan arwisgwyd EUB Tywysog Charles.  

Cymru’n codi eto 

Ond nid dyna ddiwedd y stori. Yn y ganrif ganlynol, parhaodd Lloegr i reoli’n filain a llym. Ym mis Medi 1400, dechreuodd tywysog Cymru newydd, hunanhonedig, Owain Glyndŵr, ymladd yn ôl, gan gipio cestyll – a Harlech ac Aberystwyth yn eu plith – a galw senedd ym Machynlleth yn ei gyrch i greu Cymru annibynnol.

Er ei gysylltiadau da a’i garisma, erbyn 1406 roedd ei wrthryfel wedi mynd i’r gwellt a diflannodd Owain wrth i’r Saeson wthio’n ôl i mewn i Gymru. Unwaith eto, gorfodwyd y Cymry i ildio eu cestyll yn eu gwlad eu hunain.