Skip to main content

Man pererindod   

Dilynwch yr heol i lawr y bryn a byddwch yn ei darganfod yn swatio mewn pant dwfn islaw’r toeau, yn gysegrfa wedi’i bendithio â thaldra tyrog yn hanes Cristnogaeth. Dewi, nawddsant Cymru, a sylfaenodd gymuned fynachaidd yma a ledodd y gair ar bob tu - a hynny gymaint nes bod un pab canoloesol yn datgan bod dwy bererindod i Dyddewi yn gywerth ag un i Rufain.

Mae’r gadeirlan o gerrig porffor a dyfodd o gymuned fynachaidd wreiddiol Dewi yn un o lawer o safleoedd crefyddol atgofus sydd ar wasgar ledled Cymru. Mae rhai’n ddirodres, ac eraill yn oludog; rhai’n syml, ac eraill yn ddigon o sioe. Adroddant oll hanes cred grefyddol yng Nghymru, yn eu ffyrdd gwahanol eu hunain.   

Bach a mawr  

Gadewch inni ddechrau’n fach. Yn oes bondigrybwyll ‘y Seintiau Celtaidd’, roedd mintai ddynamig o fynach-genhadwyr yn byw bywydau bwriadol o lym. Mae capel cyfyng, pitw Sant Gofan, sy’n swatio’n annhebygol yng nghlogwyni môr Sir Benfro, yn dyddio o’r 6ed ganrif ac mae’n debygol y’i henwyd ar ôl cenhadwr o Wyddel.

Mynegir cred grefyddol mewn llawer ffordd, o symlrwydd moel i haleliwiâu blodeuog. Yng Nghapel y Rug ger Corwen, cawn agwedd wahanol ar dduwioldeb a defosiwn i’r un a geir yn Sant Gofan. Nid wrth ei big y mae prynu cyffylog, ac felly hefyd capel y Rug o’r 17eg ganrif – sy’n blaen a dirodres o’r tu allan – ac yn doreth o liwiau a cherfiadau pren y tu mewn.

O ran y mawrion, mae Eglwys Sant Illtud yn Llanilltud Fawr yn bendant fel petai’n rhy fawr i’w lleoliad. Ond os edrychwch yn agosach, fe ddysgwch fod gan yr adeilad hwn, sydd megis cadeirlan, dras grefyddol o’r radd flaenaf, am mai yma oedd safle’r coleg Cristnogol cyntaf ym Mhrydain lle honnir bod Illtud wedi dysgu Dewi Sant a Sant Padrig.

Eglwys a Gwladwriaeth

Daeth y newid sylweddol nesaf mewn crefydd gyda dyfodiad y Normaniaid yn yr 11eg ganrif. Fel y bydd concwerwyr yn ei wneud, aethant ati i geisio gorfodi eu hawdurdod ar yr eglwys, gan benodi esgobion newydd yn Nhyddewi, Llandaf (yng Nghaerdydd), Bangor a Llanelwy.

Mae’n ddigon posibl mai clerigwyr oedd y preladiaid hyn, a’r rheini a ddilynodd. Ond, yn wahanol i Dewi a’i gyfoeswyr, roeddent yn hoff o’u cysuron cartref a’u moethau. Codwyd palasau crand, a’r esiampl geinaf sydd wedi goroesi yw Llys yr Esgob yn Nhyddewi, sy’n awgrymu ei olud blaenorol sy’n dal i ddisgleirio drwy’r paraped bwaog godidog a’r ffenestr olwyn. A pheth arall, adeiladodd yr esgobion hefyd encilfa wledig foethus yn Llandyfái gerllaw gyda phyllau pysgod, perllannau ffrwythau, gardd lysiau a pharcdir. 

Bywyd mynachaidd

Gyda’r mudiad mynachaidd, aeth pethau’n syml eto. Erbyn y 12fed ganrif roedd bron 20 o briordai Benedictaidd neu Glywinaidd yng Nghymru. Ond y mwyaf dylanwadol o’r rheini oll oedd rhai’r Sistersiaid, a fwriodd wreiddiau dwfn yng Nghymru o’u 13 abaty. Ni fyddai’r mynachod hyn yn eu mentyll gwyn yn cloi eu hunain i ffwrdd ar eu pen eu hunain ar drywydd goleuedigaeth ysbrydol.  Byddai’r Sistersiaid bydol, a oedd yn ffermwyr defaid talentog ac yn entrepreneuriaid gwledig, yn cymysgu ac yn cyd-dynnu’n dda â’r bobl leol.

Gadawsant gymynrodd o abatai sy’n dal i gyfareddu, ysbrydoli a rhyfeddu – er y difrod anochel iddynt yn ystod Diddymu’r Mynachlogydd yn yr 16eg ganrif ac ar ôl canrifoedd o esgeulustod.

Abaty San Steffan Cymru ac awen Wordsworth

Mae gan haneswyr eu hoff abatai, er na fyddai’r un yn dadlau bod ychydig bob amser yn geffylau blaen. Yn nyfnder Mynyddoedd Cambria ger Pontrhydfendigaid mae Abaty Ystrad Fflur. Ar un adeg, y llecyn anghysbell hwn oedd ‘Abaty San Steffan Cymru’, man a chanddo gryn ddylanwad gwleidyddol, diwylliannol ac addysgol y byddai beirdd a thywysogion yn ymweld ag ef. Mae mynedfa fwaog Romanésg addurnol yn fframio golygfa dragwyddol o fryniau lle mae defaid yn pori o hyd.       

Abaty Tyndyrn, sy’n denu ymwelwyr ers dyddiau cynnar twristiaeth, a ysbrydolodd gerdd enwog gan William Wordsworth. Hawdd yw deall pam. Mae’r adfail mawreddog hwn, sy’n agor i’r awyr, yn esgyn uwchlaw coedwigoedd a dŵr yn harddwch Dyffryn Gwy, fel petai’n gymaint o waith byd natur â gwaith llaw.     

‘Llan’ ym mhob man’

Gyda’i gilydd, dynodwyd dros 20 o safleoedd Cadw yn gadeirlannau, capeli a mynachlogydd. Ond dim ond y dechrau yw hwnnw. Chwarae plant yw dod o hyd i fannau crefyddol yng Nghymru. Mae’r ‘llan’ sydd mewn llawer o enwau lleoedd yn cyfeirio at y clostir sy’n cynnwys eglwys neu adeiladau mynachaidd. Mae yma lawer - a llawer - ohonynt. I ffwrdd â chi felly.