Gweithdai Ffeltio Nodwydd - Llwynog
Dysgwch neu datblygwch y grefft o ffeltio nodwydd gyda’r artist ffibr a chlai clodwiw Emma Bevan (Ffolky Ffelt).
Bydd Emma yn eich arwain trwy’r technegau ac yn cynnig hyfforddiant grŵp ac 1-2-1, gan eich galluogi i wneud darn unigryw o waith i fynd adref gyda chi!
Darperir yr holl offer a deunyddiau. Mae'r cnu a ddarperir gan Emma yn dod o ffynonellau lleol a moesegol.
Bydd angen tocyn ac mae’n hanfodol eich bod yn archebu ymlaen llaw. Gellir prynu tocynnau yma, ac maen nhw’n cynnwys mynediad cyffredinol i'r castell.
Dylech gyrraedd 15 munud cyn i'ch sesiwn ddechrau.
Addas ar gyfer oedran 12+.
Ni ddarperir cinio / lluniaeth ysgafn.
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 14 Medi 2024 |
10:00 - 16:30
Archebwch
|
Archebwch |