Llofruddiaeth yn y Castell
Mae’r Brawd John wedi cael y dasg o warchod tlysau’r Frenhines yn nilladfa’r castell ond, gwaetha’r modd, maen nhw wedi diflannu, wedi’u dwyn mae’n debyg! Bu llofruddiaeth yn ystod y nos hefyd!
Allwch chi helpu'r mynach i ddatrys yr achos trwy gyfweld â phobl allweddol o amgylch y castell?
Cynhelir yr olygfa agoriadol am hanner dydd, gyda pherfformiad arall am 12.30pm. Mae hwn yn ddigwyddiad rhyngweithiol a bydd y rhai dan amheuaeth wrth law i ateb cwestiynau tan 3.30pm, gyda'r canlyniad terfynol yn cael ei gyhoeddi am 4pm. (Mae'r holl amseriadau, ac eithrio'r amser cychwyn, yn rhai bras a gallant newid ar y diwrnod.)
Gall ymwelwyr na allant aros tan y diwedd ofyn am gael gwybod y canlyniad wedyn.
Does dim angen i chi ragarchebu tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn.
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sul 11 Awst 2024 |
12:00 - 16:00
|
Categori | Price |
---|---|
Aelod - Ymunwch rŵan |
Am ddim
|
Oedolyn |
£5.90
|
Teulu* |
£18.90
|
Pobl anabl a chydymaith |
Am ddim
|
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr |
£4.10
|
Pobl hŷn (Oed 65+) |
£5.70
|
*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim. Mae deiliaid cardiau Golau Glas ac aelodau a chyn-aelodau Lluoedd Arfog EF yn cael 10% oddi ar bris mynediad (ddim ar gael ar-lein). |