Skip to main content

Arolwg

Abaty canoloesol mawreddog yn enwog am ei wleddoedd helaeth 

Abaty cwbl Gymreig oedd Abaty Glyn y Groes o’r foment y cafodd ei sylfaenu ym 1201 gan y Tywysog Madog ap Gruffydd a ‘mynachod gwynion’ yr urdd Sistersaidd.

Cyfeiria ei enw Lladin (Valle Crucis) at Golofn Eliseg gerllaw o’r nawfed ganrif, a godwyd er gogoniant Cymro o bennaeth. Roedd gan y mynachod enwau fel Tudur a Hywel.   

Mae’n ddigon posibl fod cydymdeimlad cartref felly’n egluro’r difrod a ddioddefwyd yn ystod rhyfeloedd brenin Lloegr Edward I a gwrthryfel Owain Glyndŵr. Ond yma o hyd mae un o’n habatai canoloesol gorau o ran awyrgylch a chyflwr.  

Dechreuodd Glyn y Groes mewn llymder ond fe’i dathlwyd yn ddiweddarach gan feirdd am ei letygarwch helaeth – prydau bwyd yn cael eu gweini mewn llestri arian a chwrw yn ‘llifo fel afon’. Pan gafodd ei ddiddymu gan archddyfarniad brenhinol ym 1537, dim ond Abaty Tyndyrn oedd yn gyfoethocach yng Nghymru.

Ac fe gredwch chi hynny wrth gael eich cipolwg cyntaf ar flaen gorllewinol mawreddog eglwys yr abaty. Mewn mannau eraill ymhlith yr adfeilion rhamantaidd a beintiwyd gan Turner mae’r cabidyldy a’i gromen asennog, a’r unig bwll pysgod mynachaidd sydd wedi goroesi yng Nghymru. 

Mwy am Abaty Glyn y Groes


Amseroedd agor


Cyfleusterau

Toiledau hygyrch icon Maes parcio icon Disabled person access icon Croeso i gŵn icon Arddangosfa icon Tywyslyfr icon Polisi dronau icon Dim ysmygu icon Byrddau picnic icon Ymweliadau ysgol icon Llogi Safle icon Cyflwyniad fideo icon

Er mwyn trefnu ymweliad addysg hunan-dywys am ddim i’r safle hwn, dilynwch y camau syml hyn yn ein adran ymweliadau addysg hunan-dywys.

Tra eich bod ar y wefan, edrychwch ar ein adnoddau dysgu am ddim i’ch helpu chi gyda’ch antur teithio mewn amser!

Gall 6 char barcio'n agos i'r fynedfa gydag 1 lle penodol i bobl anabl (tua 50 metr).

Mae'r rhan fwyaf o'r adfeilion wedi'u gosod â glaswellt. Mae llwybrau cadarn a gwastad ar y tir.

Ceir mynediad i gadeiriau olwy.

Mae croeso i gŵn ar dennyn gael mynediad i lefelau llawr gwaelod y safle.

Mae arddangosfa ar y safle o fewn yr heneb.

Llawlyfr am y safle ar gael i’w brynu ar-lein ac mewn canolfannau ymwelwyr dethol.

Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau

Ni chaniateir ysmygu.

Mae meinciau a /neu fyrddau picnic ar gael i ymwelwyr eu defnyddio.

 

Er mwyn trefnu ymweliad addysg hunan-dywys am ddim i’r safle hwn, dilynwch y camau syml hyn yn ein adran ymweliadau addysg hunan-dywys.

Tra eich bod ar y wefan, edrychwch ar ein adnoddau dysgu am ddim i’ch helpu chi gyda’ch antur teithio mewn amser!

Mae’r safle ar gael i’w logi ar gyfer digwyddiadau, arddangosfeydd a ffilmio.

Mae’r safle ar gael i’w logi ar gyfer digwyddiadau, arddangosfeydd a ffilmio.


Cyfarwyddiadau

Ffordd
Ar yr A542 o Langollen, tua 3km/2mllr (ar y dde)
Rheilffordd
18km/11mllr Wrecsam, llwybr Caer-Wrecsam/Amwythig
Bws
4km/2.5mllr Gwesty Bridge End Llangollen, llwybr Rhif X5, Wrecsam-Llangollen

Cod post LL20 8DD.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50


Cysylltu â ni

Rhif ffôn 03000 252239

E-bost
Cadw@llyw.cymru

Cyfeiriad
Abaty Glyn y Groes,
Llantysilio, Llangollen LL20 8DD

Ar gyfer contractwyr, ymweliadau addysgiadol a danfoniadau, ffoniwch 01978 860326
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.