Skip to main content

Hysbysiad i Ymwelwyr

Mae’r capel ar gau ar hyn o bryd er mwyn i ni allu creu profiad diogel i ymwelwyr. Diolch am eich amynedd.

Edrychwch ar y dudalen I ble hoffech chi fynd am syniadau yn ymwneud â ble i ymweld yn eich ardal chi.

Cofrestrwch ar gyfer cylchlythyr Cadw i gael ein newyddion diweddaraf.

Arolwg

Capel brau pentref hirgoll 

Ar ei ben ei hun mewn cae, ffigwr unig iawn erbyn hyn yw Capel Runston heb do ar ei ben. Fodd bynnag, pan gafodd ei adeiladu tua dechrau’r 12fed ganrif, roedd yn rhan o bentref hynafol Runston, anheddiad bychan o ryw 20 o dai a fodolai mor gynnar â’r 10fed ganrif. Erbyn hyn, nid yw’r pentref yn ddim mwy nag ychydig dwmpau bwganaidd yn y ddaear, ond mae’r capel yn ei orchudd iorwg yn dal i gadw ei gorff a’i fwa perffaith o gôr.


Cyfleusterau

Polisi dronau icon Dim ysmygu icon

Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau

Ni chaniateir ysmygu.


Cyfarwyddiadau

Ffordd
1m (1.6km) i’r Gog. Ddwy. o Grug, 3m (4.8km) i’r De Orll. o Gas-gwent, oddi ar yr A48.
Rheilffordd
Caldicot 4m (6.4km).

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0871 200 2233 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 08457 48 49 50.