Castell Bryn Gwyn
Arolwg
Safle cynhanes helaeth ei hanes
Er nad oes ond un clawdd yn weddill o’r anheddiad Neolithig (Oes Newydd y Cerrig) hwn, mae cloddiadau wedi datgelu safle a chanddo hanes penodol o faith. Tardda o loc cylchol yn cynnwys clawdd a ffos allanol a adeiladwyd tua diwedd yr oes Neolithig neu ddechrau’r Oes Efydd. Credwyd yn wreiddiol mai cofadail hengor defodol sydd yma, ond mae canfyddiadau crochenwaith, tyllau pyst a fflint ac offer efydd yn perthyn mewn gwirionedd i anheddiad. Rhaid bod y bobl leol wedi hoffi’r lle. Defnyddiwyd Castell Bryn Gwyn ymhell y tu hwnt i’r cyfnod Neolithig, gyda chanfyddiadau archeolegol yn awgrymu bod pobl yn byw yma mor hwyr â chanrif 1af yr oes Rufeinig.
Amseroedd agor
Bob dydd 10am–4pm
Mynediad olaf 30 munud cyn cau
Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr
Prisiau
Categori | Price |
---|---|
Costau mynediad |
Am ddim
|