Skip to main content

Arolwg

Castell canoloesol mawr, plasty Tuduraidd a chuddfan bardd

Dyma'r castell ‘brown as owls’ oedd yn annwyl gan Dylan Thomas, trigolyn enwocaf Talacharn. Ysgrifennodd Portrait of the Artist as a Young Dog yn nhŷ haf y castell a safai uwchlaw golygfeydd godidog o aber afon Taf.

Yma saif dau dŵr cerrig canoloesol enfawr yn gwarchod olion plasty Tuduraidd godidog, a’r cyfan wedi'u gosod mewn gerddi addurnol o'r 19eg ganrif.

Wedi canrifoedd o wrthdaro rhwng y Cymry a'r Eingl-normaniaid, achubwyd Talacharn rhag mynd yn adfail llwyr gan un o wŷr llys Elisabeth 1, Syr John Perrot. Trodd y castell adfeiliedig o'r 13eg ganrif yn gartref addas i ŵr bonheddig, cartref ac iddo neuadd fawreddog sydd â’i ffenestri agored yn dal i syllu dros y dŵr.

Ond creodd ei ymddyrchafiad cyflym lawer o elynion iddo – ac ni allai hyd yn oed y si mai ef mewn gwirionedd oedd hanner brawd y frenhines, ei achub.

Bu farw Syr John yn Nhŵr Llundain yn 1592 tra’r oedd yn aros ei ddienyddiad. Cred rhai iddo gael ei wenwyno, ac yntau ar fin cael pardwn gan Elisabeth.

Sut i ymweld
•    prynwch eich tocynnau mynediad wrth gyrraedd (neu archebwch ar-lein)*
•    gwiriwch ein hamseroedd agor a’n prisiau isod
•    cymerwch olwg ar gyngor iechyd a diogelwch Llywodraeth Cymru cyn ymweld.

*ni ellir ad-dalu tocynnau a ragarchebwyd.

Mwy am Gastell Talacharn


Amseroedd agor

Dydd Iau–Llun 10am–5pm 

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Ar gau Dydd Mawrth a Mercher

Ar gau


Prisiau a Thocynnau

Categori Price
Aelod - Ymunwch rŵan
Am ddim
Oedolyn
£5.00
Teulu*
£16.30
Pobl anabl a chydymaith
Am ddim
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr
£3.60
Pobl hŷn (Oed 65+)
£4.80

*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn

Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim.

Mae deiliaid Cerdyn Golau Glas yn derbyn gostyngiad o 10% oddi ar bris tocyn mynediad unigol wrth ei brynu wrth gyrraedd

Categori Price
Aelod - Ymunwch rŵan
Am ddim
Oedolyn
£5.90
Teulu*
£18.90
Pobl anabl a chydymaith
Am ddim
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr
£4.10
Pobl hŷn (Oed 65+)
£5.70

*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn

Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim.

Mae deiliaid cardiau Golau Glas ac aelodau a chyn-aelodau Lluoedd Arfog EF yn cael 10% oddi ar bris mynediad (ddim ar gael ar-lein).


Cyfleusterau

Pay and Display car park icon Disabled person access icon Croeso i gŵn icon Arddangosfa icon Gardd icon Siop roddion icon Tywyslyfr icon Polisi dronau icon Dim ysmygu icon Clyw cludadwy icon Ymweliadau ysgol icon Llogi Safle icon Gorsaf Ail-lenwi â Dŵr icon

Mae llefydd parcio cyfyngedig hefyd gyferbyn â'r brif fynedfa i'r castell.

Mae'r prif faes parcio tua 300 metr/328 llath islaw'r castell.

Gall llifogydd effeithio ar y maes parcio hwn yn ystod llanw uchel y Gwanwyn.
Nid oes llefydd parcio anabl penodedig.

Unwaith y byddwch wedi mynd drwy'r Porthdy mae mynediad hawdd i gadeiriau olwyn/bygis.

O'r Ganolfan Ymwelwyr, mae ramp bychan yn arwain at lwybr gwastad a mynediad hawdd o amgylch y safle. 
Dim ond cerddwyr a all fynd i'r unig dwr hygyrch.

Mae croeso i gŵn ar dennyn gael mynediad i lefelau llawr gwaelod y safle.

Mae arddangosfa ar y safle o fewn yr heneb.

Mae siop ar y safle sy’n cynnig amrywiaeth o gynnyrch a llyfrau.

Llawlyfr am y safle ar gael i’w brynu ar-lein ac mewn canolfannau ymwelwyr dethol.

Mae dolen sain gludadwy ar gael.

Er mwyn trefnu ymweliad addysg hunan-dywys am ddim i’r safle hwn, dilynwch y camau syml hyn yn ein adran ymweliadau addysg hunan-dywys.

Darganfyddwch ein gweithgareddau addysgol am ddim.

Tra eich bod ar y wefan, edrychwch ar ein adnoddau dysgu am ddim i’ch helpu chi gyda’ch antur teithio mewn amser!

Mae’r safle ar gael i’w logi ar gyfer digwyddiadau, arddangosfeydd a ffilmio.

Mae gorsaf ail-lenwi â dŵr ar gael ar y safle hwn.


Cyfarwyddiadau

Ffordd
A4066 o Sanclêr.
Rheilffordd
18km/11mllr Caerfyrddin, ar lwybr Abertawe-Caerfyrddin/Aberdaugleddau/Doc Penfro
Bws
100m/110llath, llwybr Rhif 222, Caerfyrddin-Talacharn/Pentywyn.
Beic
RBC Llwybr Rhif 4 Ar y Llwybr.

Cod post SA33 4SA

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50


Cysylltu â ni

Rhif ffôn 03000 252239

E-bost
LaugharneCastle@llyw.cymru

Cyfeiriad
Castell Talacharn
King St, Talacharn, Caerfyrddin SA33 4SA

Ar gyfer contractwyr, ymweliadau addysgiadol a danfoniadau, ffoniwch 01994 427906
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.