Skip to main content

Arolwg

Cartref byddigions gyda'i dŵr gwylio ei hun

Ei leoliad dramatig ar arfordir gwyntog Penrhyn Gŵyr - yn edrych dros gorsydd a gwastadeddau llaid gydag aber gwyllt afon Llwchwr yn y pellter fydd eich atgof parhaus am Weble.  

Rhaid bod yr olygfa epig hon yr un peth heddiw ag roedd hi 700 mlynedd yn ôl pan godwyd y plasty caerog hwn gam wrth gam gan deulu cyfoethog y de la Bere, stiwardiaid i arglwyddi Gŵyr.

At ei gilydd, roedden nhw eisiau creu cartref urddasol i ddiddanu gwesteion bonheddig. Mae'r neuadd fawr, siambrau’r gwesteion â’u toiledau dan do ac ystafell haul yr arglwydd, neu’r ystafell ymneilltuo breifat, i gyd yn awgrymu cryn ysblander.

Ond mae’r tŵr gwylio, copaon y muriau ar steil milwrol a’r tŵr de-orllewinol a godwyd i uchder bylchfur yn dangos fod y rhain yn dal yn amseroedd peryglus. Bu'n rhaid i foethusrwydd ac amddiffyn fynd law yn llaw.

Serch hynny, aeth canrif heibio cyn i Weble ddioddef niwed difrifol yn ystod gwrthryfel Owain Glyndŵr ar ddechrau'r 15fed ganrif.

Mwy am Gastell Weble


Amseroedd agor

Bob dydd 9.30am–6pm*

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

*Bydd Castell Weble ynghau o ddydd Mercher 23-dydd Gwener 25 Mawrth.

Bob dydd 9.30am–5pm

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr


Prisiau

Categori Price
Aelod - Ymunwch rŵan
Am ddim
Oedolyn
£5.10
Teulu*
£16.30
Pobl anabl a chydymaith
Am ddim
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr
£3.60
Pobl hŷn (Oed 65+)
£4.60

*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn

Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim

Mae deiliaid Cerdyn Golau Glas yn derbyn gostyngiad o 10% oddi ar bris tocyn mynediad unigol wrth ei brynu wrth gyrraedd

Categori Price
Aelod - Ymunwch rŵan
Am ddim
Oedolyn
£4.80
Teulu*
£15.70
Pobl anabl a chydymaith
Am ddim
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr
£3.40
Pobl hŷn (Oed 65+)
£4.30

*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn

Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim

Mae deiliaid Cerdyn Golau Glas yn derbyn gostyngiad o 10% oddi ar bris tocyn mynediad unigol wrth ei brynu wrth gyrraedd


Cyfleusterau

Cŵn tywys yn unig icon Maes parcio icon Disabled person access icon Arddangosfa icon Siop roddion icon Polisi dronau icon Dim ysmygu icon Byrddau picnic icon Ymweliadau ysgol icon Toiledau   icon Tywyslyfr icon

Cŵn tywys yn unig yn y safle.

Glaswellt am 50 metr cyn mynedfa'r castell gyda llwybr coblog serth sydd weithiau'n llithrig.

Mae castell ar sawl lefel. Mynediad i gadeiriau olwyn yn anodd.

Nid oes lleoedd parcio penodol i bobl anabl.

Gellir rhoi caniatâd i barcio ar dir fferm yn agosach at y castell.

Mae arddangosfa ar y safle o fewn yr heneb.

Mae siop ar y safle sy’n cynnig amrywiaeth o gynnyrch a llyfrau.

Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau

Ni chaniateir ysmygu.

Mae meinciau a /neu fyrddau picnic ar gael i ymwelwyr eu defnyddio.

 

Weobley Castle is a joint-managed site and operates differently to those staffed by Cadw. 

Please call the owner directly on 01792 390012 to discuss possible visit arrangements with them. 

Thank you.

Mae toiledau yng ngardd y ffermdy.


Cyfarwyddiadau

Ffordd
B4271, neu’r B4295 i Bentref Llanrhidian, yna isffordd
Rheilffordd
17km/10mllr Abertawe, llwybr Caerdydd-Abertawe
Bws
17km/10mllr Abertawe, llwybr Caerdydd-Abertawe
Beic
RBC Llwybr Rhif 4 (13km/8mllr)

Cod post SA3 1HB.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50


Cysylltu â ni

Cyfeiriad
Castell Weble,
Abertawe, SA3 1HB