Pentref Brythonig-Rufeinig Din Llugwy
Arolwg
Anheddiad Rhufeinig hwyr dadlennol – ond a ddaw yn wreiddiol o’r Oes Haearn?
Yn rhychwantu ardal sy’n fwy na chwarter cae pêl-droed, mae’r pentref hynafol cyfareddol hwn yn cynnwys olion dau gwt crwn a nifer o adeiladau petryalog yng nghanol wal garreg 5 troedfedd/1.5m o drwch. Yn sgil darganfod darnau arian, crochenwaith a gwydr, dyddiwyd yr anheddiad i’r cyfnod Rhufeinig hwyr yn y 3edd a’r 4edd ganrif, ond mae olion strwythurau y tu allan i’r lloc yn awgrymu defnyddio’r safle ers yr Oes Haearn.
Credir ei fod yn eiddo i gymuned ffermio, a’r waliau wedi’u codi, yn ôl pob tebyg, i gynnwys da byw yn hytrach nag amddiffyn, a’r adeiladau petryalog wedi’u defnyddio efallai’n ysguboriau a gweithdai.
Amseroedd agor
Bob dydd 10am–4pm
Mynediad olaf 30 munud cyn cau
Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr
Prisiau
Categori | Price |
---|---|
Costau mynediad |
Am ddim
|
Cyfleusterau
Cyfarwyddiadau
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50