Siambr Gladdu Barclodiad y Gawres
Hysbysiad ymwelwyr
O ddydd Llun, 14 Rhagfyr, bydd yr holl henebion sydd wedi’u staffio a heb staff ar gau hyd nes y clywir yn wahanol.
Daw hyn yn dilyn y cyhoeddiad ynglŷn â chau pob atyniad awyr agored yng Nghymru.
I gael rhagor o wybodaeth am y datganiad ysgrifenedig: diweddaru’r cynllun rheoli Covid-19 yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru, ewch i: llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-diweddarur-cynllun-rheoli-covid-19-yng-nghymru
Hyd nes y gallwn eich croesawu’n ôl yn bersonol, beth am archwilio ein byd 3D o safleoedd Cadw …
Arolwg
Beddrod llawn awyrgylch gydag enghreifftiau prin o gelf gynhanes
Mae Barclodiad y Gawres (‘The Giantess’s Apronful’ yn Saesneg) yn rhoi cipolwg dadlennol – ac annisgwyl – ar fywydau ein cyndadau hynafol. Yn eistedd ar glogwyn mewn safle rhyfeddol, adluniad modern yw’r 90 troedfedd/27m o dwmpath pridd, ond islaw hwnnw ceir 23 troedfedd/7m o dramwyfa sy’n arwain at siambr siâp croes sy’n gartref i drysorau mwyaf cyffrous y beddrod. Ymhlith cyfres o gerrig mae pump wedi’u hysgythru â phatrymau igam-ogam a throellog dyrys, sy’n awgrym o arwyddocâd y safle i drigolion cynnar Ynys Môn. Er bod cerfiadau tebyg wedi’u canfod mewn safleoedd Neolithig (Oes Newydd y Cerrig) yn Iwerddon, mae’r unig feddrod arall yn y DU sydd ag enghreifftiau o gelf fegalithig debyg ychydig filltiroedd i ffwrdd ym Mryn Celli Ddu.
Prisiau
Categori | Price |
---|---|
Costau mynediad |
Am ddim
|
Cyfleusterau
Ni chaniateir ysmygu.
Nid yw Cadw yn caniatáu hedfan dronau o’u safleoedd nac uwchlaw eu safleoedd. Yr unig rai sydd â hawl i wneud hynny yw contractwyr sydd wedi’u comisiynu i gyflawni dyletswyddau penodol. Bydd y contractwyr hynny yn cyflawni gofynion CAA yn llawn ynghyd â bod a sicrwydd yswiriant ac yn gweithredu dan amodau sydd wedi’u rheoli.
Cyfarwyddiadau
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50.