Siambr Gladdu Carreg Coetan Arthur
Hysbysiad ymwelwyr
Oherwydd pryderon ynghylch lledaeniad Coronafeirws a lles ein hymwelwyr, bydd heneb hon ar gau i’r cyhoedd hyd nes yr hysbysir fel arall. Edrychwch ar wefan Cadw i gael y wybodaeth ddiweddaraf.
Arolwg
Beddrod Neolithig gyda chysylltiadau â chwedl Arthur
Mae’r beddrod siambr bach hwn o Oes Newydd y Cerrig ymhlith y mwyaf cyflawn o glwstwr o safleoedd claddu ar lethrau Cwm Nyfer. Cynhelir talp mawr o faen capan gan ddau o’i bedwar o feini cerrig unionsyth gwreiddiol. Datgelwyd arteffactau gan gloddiadau o’r safle, gan gynnwys crochenwaith Neolithig, offer carreg ac esgyrn dynol wedi’u hamlosgi. Cyfeiria’r ‘coetan’ yn yr enw at y gêm ‘coetio’, sy’n aml yn gysylltiedig â chofadail o’r math hwn. Yn ôl y chwedl, bu’r Brenin Arthur ei hun yn chwarae’r gêm â charreg y beddrod hwn.
Prisiau
Cyfleusterau
Cyfarwyddiadau
Cod post SA42 0LT