Skip to main content

Arolwg

Celf a phennau saethau cynhanesyddol

Er bod ategion brics yn rhannol gynnal ei faen capan siâp lletem 12 troedfedd/3.7m wrth 5 troedfedd/1.5m erbyn hyn, mae Tŷ Newydd yn wledd i’r llygaid o hyd. Gorchuddiwyd y beddrod ar un adeg â charnedd gron, sydd bellach wedi’i hamlinellu gan y pyst bychain o’i chwmpas.

Awgryma cynllun y siambr ei bod wedi’i hadeiladu yn ystod yr oes Neolithig (Oes Newydd y Cerrig). Mewn cloddiadau ym 1936 datgelwyd olion crochenwaith a phen saeth o gyfnodau diweddarach Bicer ac Oes Efydd mewn hanes. Yn ddiweddarach, darganfuwyd gwaith celf cynhanesyddol o’r enw ‘cafn-nodau’ ar y maen capan. Awgryma’r holl dystiolaeth hon fod gan Dŷ Newydd fywyd gweithiol hir. 


Amseroedd agor

Bob dydd 10am–4pm

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr


Prisiau

Categori Price
Costau mynediad
Am ddim

Cyfleusterau

Polisi dronau icon Dim ysmygu icon

Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau

Ni chaniateir ysmygu.


Cyfarwyddiadau

Beic
RBC Llwybr Rhif 8 (3.3km/2mllr)