Ysgol Farchogion
Dewch i gymryd rhan yn Ysgol Farchogion Castell Cricieth!
Ewch i babell yr arfwisgoedd, ac archwilio’r arfau a’r arfwisgoedd a ddefnyddiodd garsiwn y castell i’w hamddiffyn eu hunain rhag ymosodiad. A allwch chi drin cleddyf a tharian, ac a ydych chi’n ddigon cryf i wisgo helmed?
Dysgwch beth sydd ei angen i fod yn sgweier a sut i symud ymlaen i fod yn farchog yn yr Oesoedd Canol.
Yna, cymerwch ran yn sioe Brwydr yr Ymladdwyr Bach – hwyl gyda chleddyf meddal i’r teulu cyfan. Dysgwch rai sgiliau ac yna… Pwy fydd yn ennill – plant neu oedolion?
Does dim angen i chi ragarchebu tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn.
Categori | Price | |
---|---|---|
Aelod - Ymunwch rŵan |
Am ddim
|
|
Oedolyn |
£7.50
|
|
Teulu* |
£24.00
|
|
Pobl anabl a chydymaith |
Am ddim
|
|
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr** |
£5.30
|
|
Pobl hŷn (Oed 65+) |
£7.00
|
|
*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim **Mae angen dangos cerdyn adnabod myfyriwr â llun wrth fynd i mewn. Mae deiliaid cardiau Golau Glas ac aelodau a chyn-aelodau Lluoedd Arfog EF yn cael 10% oddi ar bris mynediad (ddim ar gael ar-lein). |