Skip to main content
Wedi ei gyhoeddi

Er bod y gyfres eleni mewn fformat newydd sbon, mae I’m a Celebrity… Get Me Out of Here!  yn sicr wedi dal dychymyg y genedl unwaith eto.

A'r gwahaniaeth mwyaf eleni? Wel, y newid yn y lleoliad wrth gwrs — o jyngl yn Ne Cymru Newydd i gastell yng ngogledd Cymru!

Yn fwy na hynny, mae’n siŵr bod gwylio'r selebs yn eu lleoliad hanesyddol newydd wedi rhoi chwant i chi am gestyll Cymru — a phwy allai eich beio chi? Diolch byth, mae gennym / mae gan Cadw hen ddigon o gestyll, gydag epig wedi’i dotio o gwmpas tirwedd gogledd Cymru.

O Gonwy i Gricieth, Dinbych i Ddolbadarn; mae'r 10 castell hyn yn cynrychioli'r gorau o dreftadaeth Cymru yng ngogledd Cymru — a’r cyfan heb yr un dasg arswydus ym mherfeddion y nos!

 

1. Castell Conwy

Castell Conwy

Efallai nad oes llwyth o bryfed bach yng Nghonwy, ond mae’n llawn dop o gymeriad – gwerth dros 700 mlynedd ohono, a dweud y gwir.

Ynghyd â Chestyll Biwmares, Caernarfon a Harlech, mae Conwy yn ffurfio rhan o Safle Treftadaeth y Byd UNESCO ac mae’n cael ei adnabod fel un o gaerau canoloesol mwyaf mawreddog Ewrop - seren o Gastell, yn sicr!

Ble? Conwy, LL32 8AY

Sut alla’ i ymweld? Edrychwch ar y cyfyngiadau, diwrnodau ac amseroedd agor diweddaraf cyn archebu eich tocyn mynediad gorfodol yma.

 

2. Castell Harlech

Castell Harlech

Fel y mae'r llun uchod yn ei ddangos mor hardd, mae Harlech yn bresenoldeb awdurdodol ar gamera — sy'n golygu ei fod yn gartrefol ymysg nifer o gystadleuwyr enwog eleni.

Gellid dadlau mai dyma leoliad gorau holl gestyll y rhestr; nid yn unig bod gan Harlech olygfeydd o'r twyni a'r môr — ond o gopaon trawiadol Eryri hefyd.

Ble? Harlech, LL46 2YH

Sut alla’ i ymweld? Gellir nawr ymweld â Harlech am ddim heb angen archebu ymlaen llaw. Cyn ymweld, edrychwch ar y cyfyngiadau, diwrnodau ac amseroedd agor diweddaraf yma.

 

3. Castell y Fflint

Castell y Fflint/Flint Castle

Er nad yw'n gartref i unrhyw enwogion heddiw, mae dyluniad soffistigedig, castell-mewn-castell y Fflint wedi bod yn gartref i rai o enwau mwyaf hanes: yn enwedig Richard II.

Castell y Fflint oedd lleoliad cyfarfod tyngedfennol y Brenin gyda’i wrthwynebydd am y goron, Henry Bolingbroke, yn 1399 — digwyddiad a gyrhaeddodd dudalennau enwog Richard II Shakespeare.

Ble? Y Fflint, CH6 5PF

Sut alla’ i ymweld? Mae mynediad i Gastell y Fflint am ddim, ac nid oes angen archebu tocynnau ymlaen llaw. Cyn ymweld, edrychwch ar y cyfyngiadau, diwrnodau ac amseroedd agor diweddaraf yma.

 

4. Castell Dinbych

Castell Dinbych / Denbigh Castle

Gan ei bod yn rhaglen realiti sy'n dibynnu ar ddrama, mae'n ddigon posibl bod cynhyrchwyr I’m a Celeb wedi ystyried Dinbych fel lleoliad eleni. Does yr un castell arall sy’n dwyn i gof ddrama rhyfeloedd canoloesol cystal.

Mae’n frith o hanes sy'n gysylltiedig â rhai o frwydrau mwyaf allweddol Cymru, a’n hoff nodwedd o'r castell hwn yw ei gyrchborth clyfar: drws cadarn ond cyfrinachol oedd yn galluogi amddiffynwyr i sleifio allan yn ystod argyfwng.

Ble? Dinbych, LL16 3NB

Sut alla’ i ymweld? Edrychwch ar y cyfyngiadau, diwrnodau ac amseroedd agor diweddaraf cyn archebu eich tocyn mynediad gorfodol yma.

 

5. Castell Caernarfon

Castell Caernarfon

Mae'n siŵr bod cystadleuwyr eleni’n cael ffortiwn fach am gymryd rhan yn I'm a Celeb — ond fydd eu cyfoeth nhw dal ddim yn cyfateb i un Edward I, a wariodd £25,000 ar greu Castell Caernarfon, swm anhygoel ar y pryd.

Wedi'i leoli yng nghanol tref Caernarfon, mae'r gaer eiconig hon yn cael ei chydnabod fel un o greadigaethau pensaernïol mwyaf uchelgeisiol yr Oesoedd Canol.

Ble? Caernarfon, LL55 2AY

Sut alla’ i ymweld? Mae Castell Caernarfon ar gau ar hyn o bryd yn unol â’r cyfyngiadau COVID-19 diweddaraf ac oherwydd gwaith cadwraeth parhaus, ond bydd yn ailagor i ymwelwyr y flwyddyn nesaf.

 

6. Castell Cricieth

Castell Cricieth

Er bod diffyg chwilod du, cangarŵs a chreaduriaid eraill yno, mae Cricieth yn sgorio’n uchel o ran lleoliad a mannau gwylio. Cafodd ei adeiladu gan Llywelyn Fawr a Llywelyn Ein Llyw Olaf  — a’i ddinistrio gan Owain Glyndŵr — mae Cricieth yn cynnig golygfeydd godidog.

Ble? Cricieth, LL52 0DP

Sut alla’ i ymweld? Edrychwch ar y cyfyngiadau, diwrnodau ac amseroedd agor diweddaraf cyn archebu eich tocyn mynediad gorfodol yma.

 

7. Castell Caergwrle

Castell Caergwrle

Mae 2020 wedi dod â nifer o bethau i gestyll Cymru am y tro cyntaf: Mae Gwrych yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf fel gwersyll enwogion ac, yn y cyfamser, mae Caergwrle newydd gael ei ychwanegu at gasgliad eiconig Cadw o safleoedd!

Efallai nad yw mor adnabyddus â chestyll eraill ar y rhestr hon, ond mae hanes Caergwrle yn gwneud yn iawn am ei ddiffyg enwogrwydd. Cyn ei adeiladu fel castell yn 1277, er enghraifft, credir iddo fod yn fryngaer Rufeinig / ôl-Rufeinig hwyr.

Ac os ydych chi’n caru Wrecsam gymaint â Ryan Reynolds, yna efallai mai Caergwrle, sydd ond pum milltir o ganol y dref, yw’r castell i chi...

Ble? Wrecsam, LL12 9DG

Sut alla’ i ymweld? Mae mynediad i Gastell Caergwrle am ddim, ac nid oes angen archebu tocynnau ymlaen llaw. Cyn ymweld, edrychwch ar y cyfyngiadau, diwrnodau ac amseroedd agor diweddaraf yma.

 

8. Castell Biwmares

Castell Biwmares/Beaumaris Castle

Er mai cefn gwlad Abergele a ysbrydolodd cynhyrchwyr I’m a Celebrity… Get Me Out of Here!, Ynys Môn a’i ‘beau mareys’ neu ‘forfeydd prydferth’ a fu’n ysbrydoliaetn i’r pensaer canoloesol enwog, James o St George.

Dyma ble y penderfynodd adeiladu Castell Biwmares Edward I — caer sydd bron yn berffaith ond yn anorffenedig ei chymesuredd, ac sy’n aml yn cael ei galw ‘y castell gorau na chafodd ei adeiladu erioed’.

Ble? Biwmares, LL58 8AP

Sut alla’ i ymweld? Edrychwch ar y cyfyngiadau, diwrnodau ac amseroedd agor diweddaraf cyn archebu eich tocyn mynediad gorfodol yma.

 

9. Castell Ewloe

Castell Ewloe

Nesaf, Ewloe. Castell sydd, er nad oes ganddo ddwnsiwn ar gyfer tasgau gyda’r nos, yn creu ymdeimlad tebyg o arswyd — diolch i'w leoliad mewn pant wedi'i amgylchynu gan goetiroedd dwfn.

Yn fwy na hynny, mae diffyg cofnodion hanesyddol y castell yn ychwanegu at ei ddirgelwch — sy’n golygu ei fod yn ddewis gwych i'r rhai sydd â dychymyg byw.

Ble? Glannau Dyfrdwy, CH5 3BZ

Sut alla’ i ymweld? Mae mynediad i Gastell Ewloe am ddim, ac nid oes angen archebu tocynnau ymlaen llaw. Cyn ymweld, edrychwch ar y cyfyngiadau, diwrnodau ac amseroedd agor diweddaraf yma.

 

10. Castell Dolbadarn

Castell Dolbadarn

Anghofiwch am gael eich coroni'n Frenin y Jyngl, oherwydd mae Dolbadarn yn ein hatgoffa'n berffaith o pam ei bod bob amser yn well bod yn dywysog Cymreig!

Tra bod Castell Gwrych yn edrych dros gefn gwlad Abergele, mae Dolbadarn yn eistedd ar fan uchel, unig gyda golygfeydd ar draws dyfroedd godidog Llyn Padarn a dyffryn Conwy uchaf.

Credir iddo gael ei adeiladu gan Llywelyn Fawr, a bu’r gaer atmosfferig hon unwaith yn gyswllt hanfodol yn amddiffynfeydd teyrnas hynafol Gwynedd.

Ble? Eryri, LL55 4UB

Sut alla’ i ymweld? Mae mynediad i Gastell Dolbadarn am ddim, ac nid oes angen archebu tocynnau ymlaen llaw. Cyn ymweld, edrychwch ar y cyfyngiadau, diwrnodau ac amseroedd agor diweddaraf yma.