Skip to main content

Dyma awgrymiadau gan ein ceidwaid am bethau i’w gweld a’u clywed wrth ddefnyddio ap Pyka Lens yn eu safleoedd...

Ar ben clogwyn ar bentir creigiog yn edrych dros y môr, y porthdy yw rhan fwyaf trawiadol y castell.

Lleoedd penodol sydd o ddiddordeb gweledol (e.e. tirnodau, gweadau diddorol, rhannau o’r safle sydd fel arfer yn cael eu methu/anghofio/ddim y prif atyniad).

Codwyd y porthdy mewnol trawiadol hwn, a chanddo ddau dŵr, gan Llywelyn ab Iorwerth yn y 1230au, bron at uchder y tyllau sgwâr. Fe’i gwnaed yn uwch yn ystod teyrnasiad Edward I, ac eto yng nghyfnod Edward II pan gafodd y creneliadau cynharach eu cau. Mae’r agen saethu ar frig tŵr y dwyrain (chwith) yn cynrychioli’r cyfnod adeiladu olaf.

Yn ystod gwrthryfel Owain Glyndŵr oddeutu 1404 ymosodwyd ar y castell ac fe’i llosgwyd. Mae’r olion llosgi coch a adawyd ar ôl ymosodiad Owain Glyndŵr i’w gweld o hyd ar dŵr y De. Allwch chi weld y lliw coch ar y cerrig? Dyma dystiolaeth o losgi.

Ffynnon y Castell  Ym mhen mewnol cyntedd y fynedfa mae rhwyll haearn fodern yn gorchuddio seston ddŵr, a fwydir gan darddell naturiol. Arferai ddarparu dŵr ffres ar gyfer y castell.

O ddiddordeb amgylcheddol penodol (e.e. golygfeydd amgylchynol, tirwedd, bywyd gwyllt tymhorol).

Mae llywodraethwyr Cymreig a Seisnig y castell wedi mwynhau’r olygfa. Edrychwch yn ofalus tua’r De i lawr yr Arfordir  ar ddiwrnod clir gallwch weld Castell Harlech ar draws y bae.