Cyngor gan geidwaid
Dyma awgrymiadau gan ein ceidwaid am bethau i’w gweld a’u clywed wrth ddefnyddio ap Pyka Lens yn eu safleoedd...
Lleoedd penodol sydd o ddiddordeb gweledol (e.e. tirnodau, gweadau diddorol, rhannau o’r safle sydd fel arfer yn cael eu methu/anghofio/ddim y prif atyniad).
Mae gennym Gilborth ysblennydd. Camau a droediwyd gan geffylau 700 mlynedd yn ôl wrth fynd i hela.
Cyrchborth — Llwybr dianc i negeswyr neu arglwydd y castell efallai?
O ddiddordeb amgylcheddol penodol (e.e. golygfeydd amgylchynol, tirwedd, bywyd gwyllt tymhorol).
Golygfeydd o Ddyffryn Clwyd.
Lleoedd penodol sydd o ddiddordeb sonig (e.e. seiniau sy’n digwydd yn naturiol, seiniau o beiriannau yn y safle, lleoliadau sydd ag adleisiau neu ddatseiniau diddorol).
Gosodwaith sain yn y porthdy — synau sy’n dod â’r castell yn fyw. Cewch glywed y bont godi a’r porthcwlis yn esgyn a’r ceffylau’n dynesu.
Adleisiau wrth weiddi i lawr y ffynnon 50 troedfedd.