Skip to main content

Dyma awgrymiadau gan ein ceidwaid am bethau i’w gweld a’u clywed wrth ddefnyddio ap Pyka Lens yn eu safleoedd...

Lleoedd penodol sydd o ddiddordeb gweledol (e.e. tirnodau, gweadau diddorol, rhannau o’r safle sydd fel arfer yn cael eu methu/anghofio/ddim y prif atyniad).

Yn bensaernïol, mae Castell Rhaglan yn wahanol i’r rhan fwyaf o’r cestyll yng Nghymru, gyda’i ddyddiadau (1435-1646) yn cwmpasu diwedd y cyfnod adeiladu cestyll. Y nodwedd fwyaf trawiadol mae’n debyg yw’r Tŵr Mawr gyda ffos llawn dŵr o amgylch ei waelod, ond mae toreth o fanylion ynghudd ar y safle. Mae darnau o waith maen addurniadol yn britho’r safle, o gerfluniau i leoedd tân. Gwell fyth yw’r pethau y gallwch ddod o hyd iddynt trwy godi eich golygon. Gargoiliau gwatwarus, ystafelloedd cudd ac addurniadau cywrain mewn alcofau ffenestri, yn dal yn eu plastr gwreiddiol sy’n ganrifoedd oed. Mae marciau’r seiri maen yn britho’r cerrig hefyd, llofnodion bach yr arbenigwyr a adeiladodd y castell ei hun.

O ddiddordeb amgylcheddol penodol (e.e. golygfeydd amgylchynol, tirwedd, bywyd gwyllt tymhorol).

O’r safle, ac yn enwedig o ben y tyrau, gellir gweld tirwedd Sir Fynwy yn ymestyn i bob cyfeiriad. Ar y gorwel gwelir Mynydd Pen-y-fâl a’r Blorens, mynyddoedd eiconig y rhan hon o Gymru. Ar adegau gwahanol o’r flwyddyn, bydd cnydau amrywiol yn tyfu yn y caeau sy’n nes at y castell, yn cynnwys rhai caeau i’r gogledd-ddwyrain sydd, o dro i dro, yn troi’n fôr o lesni wrth i’r planhigion had llin flodeuo.

Lleoedd penodol sydd o ddiddordeb sonig (e.e. seiniau sy’n digwydd yn naturiol, seiniau o beiriannau yn y safle, lleoliadau sydd ag adleisiau neu ddatseiniau diddorol).

O ran sŵn, mae’r castell yn fyw. Mae gan daith gerdded y ffos wrth waelod y Tŵr Mawr ei hacwsteg ei hun, ac ambell ddiwrnod gallwch glywed y dŵr yn clecian wrth i’r pysgod fwydo. Mae gan yr is-grofft, sef hen seler win, ei hacwsteg llawn awyrgylch ei hun pan fo’n dywyll, ac yn aml mae waliau’r castell yn atseinio gan sŵn plant yn chwarae, sŵn gosodwaith y nodau cerddorol, neu sŵn rhedeg o le i le.