Skip to main content

Dyma awgrymiadau gan ein ceidwaid am bethau i’w gweld a’u clywed wrth ddefnyddio ap Pyka Lens yn eu safleoedd...

Lleoedd penodol sydd o ddiddordeb gweledol (e.e. tirnodau, gweadau diddorol, rhannau o’r safle sydd fel arfer yn cael eu methu/anghofio/ddim y prif atyniad).

Beth am eistedd a mwynhau golygfeydd godidog o aber afon Taf o’r golygdy lle cafodd Richard Hughes a Dylan Thomas eu hysbrydoli i ysgrifennu. Taniwch y radio bakelit a gwrandewch ar Dylan a Richard yn cael sgwrs!!!!!

Mwynhewch bicnic ar lawntiau’r gerddi rhestredig gradd II sydd wedi’u hadfer, Eisteddwch yng nghysgod y coed – mae rhai ohonynt yn fwy na 300 o flynyddoedd oed. Mwynhewch ganu’r adar, y tawelwch a’r llonyddwch yn ystod yr haf tra’n gwylio’r gwenyn gweithgar yn ymweld â’r blodau toreithiog – hyd yn oed yn y glaw!

O ddiddordeb amgylcheddol penodol (e.e. golygfeydd amgylchynol, tirwedd, bywyd gwyllt tymhorol).

Ewch i nôl taflen Teithiau Cerdded Treftadaeth Talacharn a mwynhau tro o amgylch Talacharn, gan fynd heibio mannau o ddiddordeb hanesyddol yn y drefgordd, yn cynnwys cartref, sied ysgrifennu a bedd Dylan Thomas, yn ogystal â gwesty’r ‘Browns’.

Dilynwch y daith pen-blwydd i weld lle cafodd Dylan Thomas ei ysbrydoliaeth i ysgrifennu ‘Poem in October’ i ddathlu ei ben-blwydd yn 30 oed yn 1944.

Lleoedd penodol sydd o ddiddordeb sonig (e.e. seiniau sy’n digwydd yn naturiol, seiniau o beiriannau yn y safle, lleoliadau sydd ag adleisiau neu ddatseiniau diddorol).

Mae aber afon Taf yn ardal gadwraeth lle gallwch weld adar hirgoes ac adar môr. Cewch barcio yno am ddim, ond peidiwch â pharcio yno yn ystod llanw uchel, oherwydd caiff y maes parcio’i orchuddio gan ddŵr! Ceir arwyddion rhybuddio yn y maes parcio.