Skip to main content

Dyma awgrymiadau gan ein ceidwaid am bethau i’w gweld a’u clywed wrth ddefnyddio ap Pyka Lens yn eu safleoedd...

Lleoedd penodol sydd o ddiddordeb gweledol (e.e. tirnodau, gweadau diddorol, rhannau o’r safle sydd fel arfer yn cael eu methu/anghofio/ddim y prif atyniad)

Mae sawl elfen i Dŵr yr Eryr, gan gynnwys: amrywiaeth o weadau carreg a phren, sŵn traed ar y grisiau troellog carreg, sŵn y gwynt (y tu allan a thrwy’r dolenni saeth), adar a.y.b. Gallai ymwelwyr hefyd ymddiddori yn y cysylltiadau brenhinol sy’n golygu bod Castell Caernarfon yn unigryw yng Nghymru, e.e. y llwyfan llechen, o’i gyffwrdd rydych chi’n ymestyn yn ôl i’r gorffennol. Mae hefyd glipiau sain a ffilm o araith y Tywysog Charles yn 1969.

Defnyddiwch eich dychymyg i ddangos y gwahanol dymereddau yn yr ystafelloedd sydd nawr yn oer ac yn wag, ond a fyddai unwaith â thanllwyth o dân yn yr amrywiaeth o leoedd tân sydd ym mhob tŵr ac ystafell.

Mae safle ceginau’r castell yn dal i roi syniad o sut y byddai coginio’n cael ei wneud drwy’r oesoedd.

Sylwch ar fynedfa Giât y Brenin, a fyddai wedi bod yn barth lladd yn llawn tyllau lladd, dolenni saeth a phorthcwlisiau.

O ddiddordeb amgylcheddol penodol (e.e. golygfeydd amgylchynol, tirwedd, bywyd gwyllt tymhorol)

Mae afon Seiont ac afon Menai i’w gweld o ben y rhan fwyaf o dyrrau. Mae mynyddoedd Eryri a natur wledig rhain yn wrthgyferbyniad i ddwyrain y castell o’u cymharu ag adeiladau trefol y dref ei hun. Ni ellir osgoi’r holl wylanod bychain sydd i’w gweld a’u clywed yng Nghaernarfon yn ystod y gwanwyn ac yn gynnar yn yr haf. Mae muriau’r dref hefyd yn cynnig golwg wahanol ar gaerau Caernarfon, yn enwedig ar lan y dŵr.

O ddiddordeb sonig penodol (e.e. seiniau sy’n digwydd yn naturiol, seiniau o beiriannau yn y safle, lleoliadau sydd ag adleisiau neu ddatseiniau diddorol)

Sŵn gwynt o gwmpas y tyrrau a’r llenfuriau. Dŵr yn diferu yn y ddwy ffynnon ddofn. Rydych chi’n siŵr o glywed y Gymraeg yn cael ei siarad yng Nghastell Caernarfon ac o’i gwmpas. Yn y Tŵr Du byddwch chi’n clywed côr-gantorion canoloesol yn llafarganu.