Drysau Agored- Amgueddfa Gwefr Heb Wifrau
Gwnaed yr adeilad hwn yn bencadlys y Ganolfan Gymraeg yn Ninbych gan David Evan Jones yn 1991. Roedd gan Mr Jones angerdd dros radio â’i rôl yn hanes darlledu yng Nghymru hefyd, ond yn anffodus bu farw ychydig cyn i’w weledigaeth gael ei hagor yn swyddogol i’r cyhoedd.
Roedd yr adeilad yn gartref i hen Lyfrgell Dinbych tan 1989. Ac yn y 19eg ganrif, roedd cartref Ystafell Ddarllen y Gweithwyr yma.
Mae’r amgueddfa yn dathlu esblygiad radio a darlledu, a hynny o safbwynt Cymreig. Mae arddangosfeydd cronolegol yn cynnwys rhai radios prin a phethau cofiadwy eraill.
Bydd Penwythnos Drysau Agored Dinbych 2024 yn dechrau ddydd Gwener 20 Medi 2024, gyda darlith ddaeareg gyda'r hwyr yn Theatr Twm o'r Nant. Dros y deuddydd canlynol, dydd Sadwrn 21 a dydd Sul 22 Medi 2024 rhwng 10am a 5pm, bydd tua deg ar hugain o safleoedd hanesyddol pwysig yr ardal ar agor i'r cyhoedd, a bydd gweithdai plant a theithiau tywys yn cael eu cynnal hefyd. Bydd gwasanaeth archebu ar gyfer y safleoedd/gweithdai a theithiau tywys yn cynnig nifer cyfyngedig o leoedd ar gael trwy Lyfrgell Dinbych, yn nes at ddechrau’r penwythnos.
Bydd rhagor o wybodaeth ar gael yma -
www.visitdenbigh.co.uk/cymraeg/
https://twitter.com/OpenDoors_D
https://www.facebook.com/opendoorsdenbighshire/
Does dim angen archebu lle.
Cyfeiriad – Canolfan Iaith Clwyd, Stryd y Bont, Dinbych, LL16 3LG.
///what 3words:
(Eng) ///soil.explained.spilling
(CYM) ///benthyca.eirlaw.darlledaf
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 21 Medi 2024 |
10:00 - 17:00
|
Sul 22 Medi 2024 |
10:00 - 17:00
|