Drysau Agored - Mynwent Dan-y-Graig, Abertawe
Mae'r fynwent ddinesig hon, a agorwyd ym 1856, yn cynnwys mwy na phedwar ugain o feddau o’r Rhyfel Byd Cyntaf a mwy na deugain o feddau o'r Ail Ryfel Byd. Mae Gwladolion Tramor o Ffrainc a Norwy hefyd wedi'u claddu yma.
Bydd Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad (CWGC) yn cynnig taith am ddim o amgylch Mynwent Dan-y-graig, fel rhan o Drysau Agored Cadw.
Bydd ymwelwyr yn dysgu am hanes y Comisiwn, sy'n coffáu'r 1.7 miliwn o ddynion a menywod y Gymanwlad a gollodd eu bywydau yn ystod y ddau Ryfel Byd, a byddant yn clywed straeon rhyfeddol dynion a menywod lluoedd y Gymanwlad sydd wedi'u claddu ym Mynwent Dan-y-graig.
Mynwent Dan-y-Graig, Ffordd Danygraig, Port Tennant, Abertawe, SA1 8NB.
Teithio mewn car - o'r dwyrain a'r gorllewin gadewch yr M4 ar Gyffordd 42 a chymryd yr A483 (Ffordd Fabian) tuag at Abertawe. Ar ôl tua 8 milltir, cymerwch y gyffordd ar y dde wrth y goleuadau traffig (arwydd Port Tennant). Dilynwch Heol Port Tennant i'r dde a pharhau i deithio ar ei hyd. Tua diwedd y rhes o siopau, trowch i'r chwith i Ffordd Danygraig lle mae ponciau atal cyflymder yn mynd i fyny'r bryn. Ewch yn eich blaen dros y gylchfan fach. Byddwch yn gallu gweld wal y fynwent ar eich chwith. Ewch yn eich blaen tan y troad ar ben draw’r wal. Trowch i'r chwith yma ac ewch drwy'r gatiau i'r fynwent.
Teithio ar fws - mae'r fynwent yn agos at lwybr bysiau rhif 6 ac mae'r gwasanaeth yn rhedeg yn rheolaidd o Orsaf Fysiau Abertawe i Bort Tennant; mae arhosfan ychydig heibio mynedfa’r fynwent.
Teithio ar y trên - yr orsaf agosaf yw Gorsaf Abertawe ar y Stryd Fawr. Mae tacsis o flaen yr orsaf. Mae'n cymryd tua 15 munud i yrru i fynwent Danygraig.
Nid oes unrhyw gyfleusterau ar y safle; mae yna lwybrau ledled y fynwent, ar lethr graddol.
Gwisgwch yn addas ar gyfer y tywydd a gwisgwch esgidiau addas.
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sul 07 Med 2025 |
11:00 - 12:00
|