Skip to main content

Adeiladwyd Neuadd Seiri Rhyddion Penarlâg, a oedd yn wreiddiol yn ysgol i fechgyn, o dywodfaen lleol yn bennaf yn 1877. Fe’i datblygwyd yn wreiddiol yn sgil Deddf Addysg 1875, a gyflwynwyd gan y Llywodraeth Ryddfrydol, yr oedd William Ewart Gladstone o Gastell Penarlâg yn Brif Weinidog arni, ac a oedd yn nodi y dylai pob plentyn dros 5 oed dderbyn addysg.

Bu'r adeilad yn ysgol i fechgyn tan 1912 pan gafodd ei disodli gan ysgol newydd, a enwyd yn Ysgol Canon Drew, nad yw yno mwyach.

Defnyddiwyd hen ysgol y bechgyn fel Neuadd y Seiri Rhyddion gan Gyfrinfa Sant Deiniol rhif 3272, ac yn 1912 prynodd y gyfrinfa’r adeilad gan Awdurdodau’r Eglwys.

Adeiladwyd hen dŷ’r ysgol gan y Rheithor Glynne 1834, a’i gynllunio o bosibl gan Thomas Jones.
(cymharer yr Wyddgrug, Hen Neuadd y Sir). Fe'i trawsnewidiwyd yn Neuadd y Seiri Rhyddion yn 1913.

Manylion pensaernïol: neuadd betryal 6 bae mewn arddull Jacobethaidd, o ashlar tywodfaen ar blinth parhaus. To llechi ar oleddf canolig gyda bargodion plaen. Talcennau â cherrig copa i'r gogledd a'r de gyda phennau uchaf crocedog, wedi eu gosod yn groeslinol, ac wedi eu bargodi allan. Simneiau grisiog ochrol mawr, wedi'u gosod yn ganolog, gyda siafftiau wythonglog sengl. Mae gan yr un i’r dwyrain blac wedi'i fowldio wedi’i fewnosod, sy'n dwyn yr arysgrif ‘Masonic Hall 1913’ mewn llythrennau wedi'u codi. Tarian gyda bathodyn y Seiri Rhyddion uwchlaw. Ffasâd dwyreiniol cymesur gyda dwy ffenest dau gwarel fyliynog ac un ffenest un cwarel bob ochr i’r simnai. Cwmpasau cilfachog a siamffrog. Myliynau plaen a mowldin capan cilfachog. Ffenestri grisiog 8-cwarel myliynog croeslathog yn y talcennau gogleddol a deheuol, gyda mynedfa wedi ei rhwystro i’r gogledd. Cyntedd caeedig i'r de, â ffrâm bren ar blinth brics i uchder dado. Mae'r holl ffenestri i'r prif adeilad wedi'u rhwystro ac eithrio dwy ar yr ochr orllewinol. Estyniadau carreg un llawr o ddau gyfnod tua’r cefn, a’r prif un ohonynt â chyntedd â thalcen ffrâm bren a mynediad gyda grisiau. Ffenestr fyliynog 4-cwarel; to llechi.

Ar 16 Tachwedd 1994 dyfarnwyd statws adeilad rhestredig Gradd II i'r neuadd gan Cadw.

Ar gyfer Drysau Agored - ewch ar daith hanesyddol o amgylch un o adeiladau rhestredig Gradd II Cadw, sef Neuadd Seiri Rhyddion Penarlâg, mewn cydweithrediad ag archifau gogledd-ddwyrain Cymru (cangen Penarlâg). Mae'r adeilad hwn wedi bod yn rhan o dreftadaeth a hanes Penarlâg ers iddo gael ei adeiladu yn 1877. Ysgol i fechgyn ydoedd yn wreiddiol, a adeiladwyd yn sgil cyflwyno’r Ddeddf Addysg gan Lywodraeth Gladstone. Mae'r adeilad wedi bod yn Neuadd Seiri Rhyddion ers 1913 ac mae wedi cael ei defnyddio drwy’r cyfnod hwnnw hyd heddiw. 

Beth sydd y tu ôl i'r hen waliau tywodfaen a’r ffenestri hynafol sydd wedi eu cau â brics? Digon posib eich bod yn gyrru heibio i’r adeilad bob dydd. Ewch draw i weld – fe gewch chi eich synnu!

Cyfeiriad - Neuadd Seiri Rhyddion Penarlâg Cyf., Ffordd Gladstone, Penarlâg, Glannau Dyfrdwy, CH5 3HE.

Cyfarwyddiadau - o gylchfan Queensferry, cymerwch allanfa Penarlâg i Ffordd Gladstone. Lleolir yr adeilad ym mhen pellaf Ffordd Gladstone ar yr ochr dde, tua milltir o gylchfan Queensferry.
Mynediad i'r anabl i gefn yr adeilad, drwy gatiau agored. 
Maes parcio preifat mawr – lle i 40 o geir gyda 4 lle wedi'u dyrannu i'r anabl.

Does dim angen archebu lle.


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 14 Medi 2024
10:00 - 16:00