Skip to main content

Cynhanes yw’r enw ar y cyfnod cyn i’r Rhufeiniaid gyrraedd ym Mhrydain yn 47 OC, am ei fod cyn dyfodiad y gair ysgrifenedig i’r ynysoedd hyn. Awgrymir felly na wyddom ryw lawer am yr hyn a ddigwyddodd yn y ‘gorffennol pell a niwlog’. Ond, a dweud y gwir, gwyddom lawer iawn…

Nid oedd Cymru, wrth reswm, yn bodoli yn y ffordd y’i deallwn heddiw. Nid oedd ffin rhwng Cymru a Lloegr; yn fwy perthnasol byth, roedd Prydain Fawr yn dal ynghlwm wrth dir mawr Ewrop, cyn i lefel y môr godi a’n gwneud ni’n ynys o genedl.   

Datgelu manylion y meirwon

Bu pobloedd o bob cwr yn crwydro’r dirwedd. Tybir bod Neanderthaliaid, rhywogaeth ddiflanedig o fodau dynol, wedi sefydlu yng Nghymru ryw 230,000 o flynyddoedd yn ôl. Mae cloddiadau yn Ogof Pontnewydd ger Llanelwy wedi datgelu offer carreg syml a dannedd dynol (a ddarganfuwyd gan Amgueddfa Cymru ac sydd bellach yn rhan o’i chasgliad) o’r cyfnod hwn. 

Cyrhaeddodd dynion, sef ein hynafiaid, tua 31,000 CC. Mae Cymru’n gartref i gladdfa ddynol ffurfiol gynharaf Gorllewin Ewrop. Canfuwyd esgyrn a elwir ‘Menyw Goch Pen-y-fai’, tua 33,000 o flynyddoedd oed, mewn ogof môr ar Benrhyn Gŵyr. Yn sgil claddedigaeth ddefodol y ‘fenyw’ - a oedd, mewn gwirionedd, yn fiolegol yn ddyn a’i esgyrn wedi’u lliwio’n goch - gwyddom fod defodau felly’n digwydd yn llawer cynharach nag y tybiwyd yn wreiddiol.   

Torri’r iâ

Gafaelodd yr Oes Iâ ddiwethaf yng Nghymru am 100,000 o flynyddoedd. Nid tan ddiwedd y cyfnod rhewlifol digroeso hwn tua 12,000 o flynyddoedd yn ôl y cafodd Cymru ei hanheddu’n iawn, gan ddechrau yn yr oesoedd Mesolithig (Canol Oes y Cerrig), a phara drwy’r oes Neolithig (Oes Newydd y Cerrig) i’r Oes Efydd, cyfnod sy’n fras rychwantu 8,000–800 CC.

Siambr Gladdu Barclodiad y Gawres/Barclodiad y Gawres Burial Chamber

Mae gan Gymru lu o olion o’r amseroedd hyn, a’r amlycaf ohonynt yw’r henebion sydd ar wasgar ledled y dirwedd a ddefnyddid at ddibenion claddu a defodau. Mae dwy o’r siambrau claddu mwyaf diddorol ym mhennau croes o’r wlad i’w gilydd. Ar Ynys Môn mae Barclodiad y Gawres, sy’n arddangos manylion hynod ddiddorol celfyddyd y creigiau cynhanesyddol. Gwnaethpwyd Pentref Ifan yn Sir Benfro o’r un ‘cerrig gleision’ lleol a gafodd eu trawsgludo - rywfodd - i ffurfio rhan o Gôr y Cewri, sef heneb enwocaf Prydain.   

Mae’r stori’n parhau. Datgelodd canfyddiadau cyffrous diweddar yn Llanfaethlu ar Ynys Môn bentref Neolithig cynnar – y cyntaf i’w ddarganfod yng Ngogledd Cymru – sy’n datgelu clwstwr o bedwar tŷ. 

Siambr Gladdu Pentre Ifan/Pentre Ifan Burial Chamber

Ffatrïoedd a ffermio

Nid gwrthrychau parchedig neu grefyddol yn unig oedd cerrig. Yn y bryniau uwchlaw Penmaenmawr, mae ‘ffatri’ fwyeill anhygoel – Neolithig a chynhyrchiol iawn – a gynhyrchai gerrig morthwylio a phennau bwyeill a ganfuwyd ers hynny ledled Cymru a Lloegr.   

Un arloesiad hynod arall o’r cyfnod hwn oedd amaethyddiaeth. Daeth y ffermwyr cyntaf i’r amlwg, gan ddofi’r dirwedd drwy dyfu cnydau a magu da byw.  

Dyfodiad metel   

Yn y cam esblygiadol nesaf, cefnwn ar gerrig o blaid llestri metel, sef copr i ddechrau ond efydd yn ddiweddarach (a’r ail yn aloi sy’n cynnwys copr yn bennaf). Aeth yr Oes Efydd o ryw 2,300 i 800 CC. Parhaodd arferion a defodau claddu a seremonïol, ond y peth mwyaf trawiadol sydd wedi goroesi o’r cyfnod hwn yw Mwynglawdd Copr eithriadol Pen y Gogarth uwchlaw Llandudno, sef mwynglawdd cynhanesyddol hysbys mwyaf y byd, yn ôl y sôn.    

Dyfodiad y Celtiaid   

Nodweddir yr Oes Haearn yng Nghymru o ryw 800 CC gan greadigaeth haearn a oedd newydd ei darganfod, celf Geltaidd syfrdanol ac adeiladu bryngaerau. Yn wahanol i’r Oes Efydd, mae gennym lawer llai o dystiolaeth o’r ffordd y byddai’r byw yn trin eu meirw. Ond edrychwch am i fyny bron yn unrhyw le yng Nghymru a byddwch yn synhwyro presenoldeb bwganaidd henebion newydd i’r Oes Haearn. Mae llawer o fryniau Cymru (dros 600) wedi’u coroni o hyd â llociau enfawr, hindreuliedig o bridd a cherrig, a oedd yn gryn orchestion peirianneg, a’r cyfan wedi’i gloddio â llaw. Un enghraifft glasurol yw Crug Hywel, y copa pen gwastad sy’n ymddangos uwchlaw tref fechan Crucywel ym Mannau Brycheiniog.     

Bryngaerau

Mae llawer o fryniau Cymru (dros 600) wedi’u coroni o hyd â llociau enfawr, hindreuliedig o bridd a cherrig, a oedd yn gryn orchestion peirianneg, a’r cyfan wedi’i gloddio â llaw.
Un enghraifft glasurol yw Crug Hywel, y copa pen gwastad sy’n ymddangos uwchlaw tref fechan Crucywel ym Mannau Brycheiniog.     

Pan ddechreuodd y Rhufeiniaid oresgyn ein glannau, cadwasant gofnod ysgrifenedig.

Disgrifiwyd y brodorion, y cyfeirir yn aml atynt yn ‘Geltiaid’, yn anwariaid cyntefig, yn tueddu at ddosbarthiadau llwythol a rhyfel gerila. Ond faint o hyn a oedd mewn ymateb i fygythiad goresgyniad? A faint sy’n bropaganda Rhufeinig gwyrdueddol? Wedi’r cyfan, y buddugol fel arfer sydd wedi ysgrifennu hanes.

Gadewch inni gofio bod y Cymry, yng nghyfnos yr oes gynhanes, yn bobl Prydain, yn rhannu diwylliant cyffredin. Nid oedd ein syniad cyfredol o Gymru a Lloegr yn bodoli.

A helynt y Brythoniaid brodorol yn erbyn y Rhufeiniaid goresgynnol? Stori arall yw honno...