Skip to main content

Arolwg

Adfeilion ysgerbydol o fedd Neolithig mewn lleoliad ysgytwol

Mae Pentre Ifan yn mynd â ni yn ôl i’r oes Neolithig (Oes Newydd y Cerrig), pan fyddai ein cyndeidiau’n claddu’r meirw mewn beddau fel hwn. Dyma sgerbwd beddrod siambr a fyddai wedi cael ei gorchuddio â thwmpath o bridd yn wreiddiol. Mae’r ‘maen capan’ enfawr 16½ troedfedd/5m o uchder yn ymddangos fel pe bai’n cydbwyso’n ansicr ar dair carreg unionsyth, er ei fod wedi bod yno ers dros 5,000 o flynyddoedd.

Mae’r lleoliad a’r olygfa yn ychwanegu at y teimlad o ddirgelwch a geir ym Mhentre Ifan. Mae ei amlinelliad yn ffrâm daclus i’r Preselau uchel, sef ffynhonnell carreg las enwog Sir Benfro a gafodd ei defnyddio i wneud Côr y Cewri yn ogystal â Phentre Ifan ei hun.


Amseroedd agor

Bob dydd 10am–4pm

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr


Prisiau

Categori Price
Costau mynediad
Am ddim

Cyfleusterau

Mynediad i feiciau icon Polisi dronau icon Dim ysmygu icon

Mae lle i gadw beiciau ar gael yn y maes parcio neu’n agos i’r safle.

Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau

Ni chaniateir ysmygu.


Cyfarwyddiadau

Beic
RBC Llwybr Rhif 82 (2.2m/3.5km).

Cod post SA41 3TZ