Skip to main content

Arolwg

Abaty canoloesol crand lle claddwyd cenedlaethau o dywysogion Cymru

Saif abaty Ystrad Fflur neu Strata Florida – y Lladin am ‘Fro’r Blodau’ – ar ddolydd ffrwythlon wrth ymyl glannau afon Teifi ers 1201.

Fe’i sefydlwyd gan fynachod Sistersaidd mentyll gwynion yn rhan o fudiad a aeth fel ymchwydd ledled gorllewin Ewrop i gyd yn yr Oesoedd Canol cynnar. Cyn hir, yma oedd yr eglwys enwocaf yng Nghymru ar ôl Tyddewi – man pererindod ac echelbin diwylliant Cymru.    

Clywir atsain mawredd yn ddigamsyniol ymhlith yr adfeilion. Yn y porth gorllewinol cerfiedig i’r abaty, cynigir golygfa aruthrol i lawr canol yr eglwys i’r man lle safai’r brif allor ar un adeg. 

Mae rhai o’r teils addurnedig anhygoel a fuasai’n gorchuddio lloriau’r eglwys yn y golwg o hyd. Ceir griffoniaid, adar a gellesg o amgylch y ‘Dyn gyda’r Drych’ enigmatig. Tybir bod y ffigwr hwn o’r 14eg ganrif, a chrysbais a chwfl clos amdano, yn symbol o goegfalchder.  

Ystrad Fflur yw man gorffwys olaf cenedlaethau o dywysogion canoloesol Cymru. Dywedir bod y bardd mawr Dafydd ap Gwilym wedi’i gladdu o dan ywen yn y fynwent. Nid yw’n syndod bod y lle wedi’i alw’n ‘Abaty San Steffan Cymru’.  

Rhagor o wybodaeth


Amseroedd agor

Bob dydd 10am–4pm*

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr

*Ar agor ac yn ddi-staff, gyda mynediad am ddim

 


Cyfleusterau

Disabled person access icon Croeso i gŵn icon Polisi dronau icon Dim ysmygu icon Byrddau picnic icon

Mae'r tir wedi'i osod â glaswellt.

Gellir cysylltu â'r ceidwad i drefnu mynediad i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn i'r safle drwy giât yr allanfa, sy'n llwybr gwastad cadarn sy'n arwain at adfeilion yr abaty.

Byrddau picnic a meinciau ar gael, 1 gyda rhan i gadair olwyn.

Mae croeso i gŵn ar dennyn gael mynediad i lefelau llawr gwaelod y safle.

Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau

Ni chaniateir ysmygu.

Byrddau picnic a meinciau ar gael, 1 gyda rhan i gadair olwyn.


Cyfarwyddiadau

Ffordd
Isffyrdd o Bontrhydfendigaid, gellir ei gyrraedd o’r B4340
Rheilffordd
Aberystwyth 26km/16mllr Llinell Amwythig - Aberystwyth
Beic
NCN Llwybr Rhif 820 (4km/2mllr)

Cod post SY25 6ES.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0871 200 2233 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 08457 48 49 50.


Cysylltu â ni

Rhif ffôn 03000 252239

E-bost
Cadw@llyw.cymru

Cyfeiriad
Abaty Ystrad Fflur
Abbey Rd, Ystrad Fflur, Ystrad Meurig SY25 6ES

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.