Skip to main content

Arolwg

Man geni honedig nawddsant Cymru mewn llecyn dyrchafol  

Er nad oes ond ychydig waliau brau’n weddill o Gapel Santes Non, a’r rheini o ddyddiad ansicr, mae’n safle diwylliannol a sanctaidd arwyddocaol o hyd. Mae ei leoliad, ar ymyl Cymru ar hyd un o’r darnau mwyaf ysblennydd o Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yn ychwanegu at egni ysbrydol y capel. Dywedir mai yma oedd man geni nawddsant Cymru, Dewi Sant, yn y 6ed ganrif, ac fe’i henwyd ar ôl ei fam, ac mae’n dal yn fan pererindod hyd heddiw.

Hwyrach bod y capel bach petryalog yn blaen a syml, ond mae’r safle uwchben bae creigiog Santes Non yn mynd â’ch gwynt. Ar y llwybr i fyny i’r capel, byddwch yn mynd heibio ffynnon sanctaidd â phwerau iachau, yn ôl y sôn, sef man poblogaidd arall i aros ymhlith y pererinion sy’n ymweld.   


Amseroedd agor

Bob dydd 10am–4pm

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr


Prisiau

Categori Price
Costau mynediad
Am ddim

Cyfleusterau

Maes parcio icon Dim dronau icon Dim ysmygu icon

Maes parcio o fewn 100 metr, tua 8 lle gyda nid oes lleoedd parcio penodol i bobl anabl.

Ceir mynediad o'r ardal barcio drwy lwybr troed anwastad a dwy giât fochyn.

Nid yw Cadw yn caniatáu hedfan dronau o’u safleoedd nac uwchlaw eu safleoedd. Yr unig rai sydd â hawl i wneud hynny yw contractwyr sydd wedi’u comisiynu i gyflawni dyletswyddau penodol. Bydd y contractwyr hynny yn cyflawni gofynion CAA yn llawn ynghyd â bod a sicrwydd yswiriant ac yn gweithredu dan amodau sydd wedi’u rheoli.

Ni chaniateir ysmygu.


Cyfarwyddiadau