Olion adfeiliedig castell o’r 14eg ganrif
Wedi’i adeiladu, yn ôl pob tebyg, gan y Sais o uchelwr a chadlywydd milwrol Gilbert de Clare tua dechrau’r 14eg ganrif, olion mwyaf hynod y castell hwn yw ei borthdy enfawr â dau dŵr a darn uchel o furlen yng ngogledd y safle. Yng nghanol yr hyn a arferai fod yn gaer fawr, mae tomen bridd ac olion adeilad o waliau trwchus ar ei phen, ac efallai mai dyna’r cyfan sy’n weddill o orthwr cynharach.
Bob dydd 10am–4pm
Mynediad olaf 30 munud cyn cau
Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr
Categori | Price |
---|---|
Costau mynediad |
Am ddim
|
Mae lle i gadw beiciau ar gael yn y maes parcio neu’n agos i’r safle.
Mae croeso i gŵn ar dennyn gael mynediad i lefelau llawr gwaelod y safle.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0871 200 2233 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 08457 48 49 50