Castell Talacharn
Hysbysiad ymwelwyr
Mae'r heneb hon ar agor ac fe ellir ymweld â’r safle gyda thocyn wedi'i archebu ymlaen llaw.
Rhaid i chi archebu eich tocynnau cyn i chi ymweld, a chofiwch:
- ni ellir ad-dalu tocynnau a brynwyd — gwiriwch eich bod yn gallu mynychu ar y dyddiad rydych chi wedi'i archebu
- archebu tocyn i bob aelod o’ch grŵp ar gyfer yr un amser
- dod a gorchudd wyneb, i’w wisgo ym mhob ardal o dan do.
Yn anffodus, ni chaniateir mynediad i ymwelwyr heb docynnau wedi'u harchebu ymlaen llaw.
Arolwg
Castell canoloesol mawr, plasty Tuduraidd a chuddfan bardd
Dyma'r castell ‘brown as owls’ oedd yn annwyl gan Dylan Thomas, trigolyn enwocaf Talacharn. Ysgrifennodd Portrait of the Artist as a Young Dog yn nhŷ haf y castell a safai uwchlaw golygfeydd godidog o aber afon Taf.
Yma saif dau dŵr cerrig canoloesol enfawr yn gwarchod olion plasty Tuduraidd godidog, a’r cyfan wedi'u gosod mewn gerddi addurnol o'r 19eg ganrif.
Wedi canrifoedd o wrthdaro rhwng y Cymry a'r Eingl-normaniaid, achubwyd Talacharn rhag mynd yn adfail llwyr gan un o wŷr llys Elisabeth 1, Syr John Perrot. Trodd y castell adfeiliedig o'r 13eg ganrif yn gartref addas i ŵr bonheddig, cartref ac iddo neuadd fawreddog sydd â’i ffenestri agored yn dal i syllu dros y dŵr.
Ond creodd ei ymddyrchafiad cyflym lawer o elynion iddo – ac ni allai hyd yn oed y si mai ef mewn gwirionedd oedd hanner brawd y frenhines, ei achub.
Bu farw Syr John yn Nhŵr Llundain yn 1592 tra’r oedd yn aros ei ddienyddiad. Cred rhai iddo gael ei wenwyno, ac yntau ar fin cael pardwn gan Elisabeth.

Castell Talacharn Pamffledyn Canllaw
Prynwch eich llyfr Cadw ar-lein heddiw.
Aelodau Cadw 10% i ffwrdd!
Amseroedd agor
Dydd Iau–Llun 10am–5pm — Ar gau 1pm–2pm
Ar gau Dydd Mawrth a Mercher
Mynediad â thocyn wedi'i amseru yn unig
Ar gau
Prisiau a Thocynnau
Categori | Price |
---|---|
Aelod - Ymunwch rŵan |
Am ddim
|
Oedolyn |
£0.00
|
Teulu* |
£0.00
|
Pobl anabl a chydymaith |
Am ddim
|
Plant (Oed 5-17) / UCM / Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr |
£0.00
|
Pobl hŷn (Oed 65+) |
£0.00
|
*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim. |
Categori | Price |
---|---|
Aelod - Ymunwch rŵan |
Am ddim
|
Oedolyn |
£2.00
|
Teulu* |
£6.50
|
Pobl anabl a chydymaith |
Am ddim
|
Plant (Oed 5-17) / UCM / Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr |
£1.40
|
Pobl hŷn (Oed 65+) |
£1.90
|
*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim. |
Cyfleusterau
Mae llefydd parcio cyfyngedig hefyd gyferbyn â'r brif fynedfa i'r castell.
Mae'r prif faes parcio am ddim tua 300 metr/328 llath islaw'r castell.
Gall llifogydd effeithio ar y maes parcio hwn yn ystod llanw uchel y Gwanwyn. Nid oes llefydd parcio anabl penodedig.
Unwaith y byddwch wedi mynd drwy'r Porthdy mae mynediad hawdd i gadeiriau olwyn/bygis.
O'r Ganolfan Ymwelwyr, mae ramp bychan yn arwain at lwybr gwastad a mynediad hawdd o amgylch y safle. Dim ond cerddwyr a all fynd i'r unig dwr hygyrch.
Mae croeso i gŵn ar dennyn gael mynediad i lefelau llawr gwaelod y safle.
Mae arddangosfa ar y safle o fewn yr heneb.
Mae siop ar y safle sy’n cynnig amrywiaeth o gynnyrch a llyfrau.
Llawlyfr am y safle ar gael i’w brynu ar-lein ac mewn canolfannau ymwelwyr dethol.
Mae dolen sain gludadwy ar gael.
Mae lluniaeth ysgafn ar gael.
Er mwyn trefnu ymweliad addysg hunan-dywys am ddim i’r safle hwn, dilynwch y camau syml hyn yn ein adran ymweliadau addysg hunan-dywys.
Darganfyddwch ein gweithgareddau addysgol am ddim.
Tra eich bod ar y wefan, edrychwch ar ein adnoddau dysgu am ddim i’ch helpu chi gyda’ch antur teithio mewn amser!
Mae’r safle ar gael i’w logi ar gyfer digwyddiadau, arddangosfeydd a ffilmio.
Mae gorsaf ail-lenwi â dŵr ar gael ar y safle hwn.
Cyfarwyddiadau
Cod post SA33 4SA
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0871 200 2233 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 08457 48 49 50
Cysylltu â ni
Rhif ffôn 01994 427906
E-bost
*LaugharneCastle@llyw.cymru
King St, Talacharn, Caerfyrddin SA33 4FA